fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Sut i fwynhau ein harfordir a'n cefn gwlad yn ddiogel

Rydym am i chi fynd yn ôl adref gydag atgofion anhygoel. I sicrhau hynny, rydym wedi cynnwys gwybodaeth bwysig yma ac ar ein tudalen ‘Dewch i Fae Abertawe. Yn gyfrifol’ am sut i fwynhau ein harfordir a’n cefn gwlad yn ddiogel. Cymerwch amser i’w darllen, yna gallwch ymlacio, gan wybod eich bod chi, eich ffrindiau a’ch teulu’n barod i gael amser gwych!

Rhan o swyn Bae Abertawe yw’r ffaith ei fod yn rhyfeddol o wyllt, felly mae’n bwysig eich bod yn cymryd gofal pan fyddwch yn mynd hwnt ac yma. Darllenwch ymlaen i ddod o hyd i gyngor ar ddiogelwch wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd, diogelwch ar y traeth, BBQs, cyngor gan yr RLNI a cherdded yn ddiogel.

Ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgaredd ar y môr neu ar y tir?

• Beth bynnag y byddwch yn ei wneud a ble bynnag y byddwch yn ei wneud, sicrhewch fod yr amodau’n ddiogel a bod gennych y cyfarpar cywir. Os ydych yn newydd i’r gweithgaredd neu’n amhrofiadol, defnyddiwch weithredwr achrededig (lle y bo’n briodol, mae’r holl weithredwyr yn y llyfryn hwn wedi cyflawni’r achrediad gweithgareddau priodol).

• Gwyliwch eich traed: mae nifer o’n traethau a rhannau o’n morlin yn gartref i fywyd môr fel pysgodyn bwyell, sy’n gallu pigo pan fyddwch yn sefyll arnynt, yn ogystal â mannau creigiog sy’n gallu arwain at doriadau croen. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio esgidiau dŵr, yn enwedig gyda phobl iau, a cheisiwch gadw llygad ar ble rydych chi’n sefyll.

• Os ydych yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ar y môr neu ger y draethlin, yna cadwch lygad ar y llanw – gall y llanw droi’n gyflym yma gan achosi ymchwydd llanw neu lanw terfol; yn enwedig ym Mae y Tri Chlogwyn, Burry Holms a Sarn Pen Pyrod. Gall Ganolfan Gwylio Arfordir Pen Pyrod, Rhosili eich helpu i gynllunio’ch taith gerdded yn ddiogel.

• Os ydych chi’n syrffio yn Llangynydd, cadwch lygad am longddrylliadau dan y dŵr.

• Darllenwch y PDF diogelwch hwn am badlfyrddio ar eich traed – SUP SAFETY FLYER Cymraeg

• Argymhellir y dylech gadw llygad ar eich plant ar bob adeg a nofio ar draeth sydd ag achubwr bywyd – gweler isod am ragor o wybodaeth am draethau sydd ag achubwyr bywyd RNLI. Os ydych chi’n gweld rhywun mewn trafferthion, peidiwch â cheisio mynd i mewn i’r dŵr, ffoniwch 999 a gofynnwch am wyliwr y glannau.

• A chofiwch eich eli haul!

Diogelwch Dŵr ar y Traeth

Mae Patrolau Achubwyr Bywyd yr RNLI wedi gorffen ar gyfer y gaeaf, bydd yn ôl yng ngwanwyn 2024.

Am ragor o wybodaeth am achubwyr bywyd a phatrolau’r RNLI, ewch i wefan yr RNLI

Cyngor yr RNLI i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel

Mae’n wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau’r awyr iach unwaith eto – ac mae’r awyr iach mor llesol ag erioed ar ein baeau a’n traethau ysblennydd. Ond wrth i fwy o bobl fwynhau ein harfordir hardd rydym am sicrhau bod dim byd yn difetha eu hwyl.

Cyn i chi fynd i’r traeth neu blymio i’r môr unwaith eto, cymerwch gip ar y canllaw defnyddiol hwn a luniwyd gan yr RNLI a Gwylwyr y Glannau EM – gallai achub bywydau. Bydd yn eich helpu i ddeall baneri ac arwyddion y traeth, cerhyntau terfol a’r llanw, ac yn nodi peryglon megis defnyddio offer chwyddadwy yn y môr.

Dilynwch y ddolen hon i sicrhau eich bod chi a’ch teulu’n cadw’n ddiogel yr haf hwn!

Gwyliwch y fideo RNLI Caswell.

Gwyliwch y fideo Bae y Tri Chlogwyn.

Cerdded yn ddiogel ym Mae Abertawe

• Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn agos at ymyl y clogwyn mewn nifer o fannau. Er eich diogelwch eich hun – cadwch at y llwybr!

• Mae rhai mannau o Lwybr yr Arfordir yn destun llanwau uchel. Byddwch yn ofalus, mae’r llanw yn gallu newid yn gyflym iawn yma. Ar adegau eithafol, efallai bydd angen i chi aros nes bod y llanw’n mynd ar drai cyn parhau, neu efallai byddwch yn gallu defnyddio llwybr amgen. Peidiwch â cheisio nofio gan efallai y byddwch chi’n mynd i drafferthion.

• Mae rhai o’r llwybrau’n dilyn y ffordd am bellterau byr, ac yn aml does dim palmant ar gael. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio’r adrannau hyn gan efallai na fydd y gyrwyr yn ymwybodol o’ch presenoldeb.

• Gwisgwch esgidiau a dillad addas bob tro ar gyfer yr amodau y byddech yn eu disgwyl ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.

• Os ydych chi mewn trafferth, ffoniwch 999 (112 ar ffôn symudol) a gofynnwch am wylwyr y glannau.

• Dilynwch y Côd Cefn Gwlad ar bob adeg: cadwch eich ci ar dennyn ger da byw. Gadewch glwydi fel yr oeddent pan ddaethoch ar eu traws, ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.

Barbeciwiau ar y Traeth – Byddwch yn Ddiogel

Mae’r haul yn gwenu, felly does dim byd gwella na diwrnod ar y traeth. Os ydych chi’n bwriadu cael barbeciw i’w fwynhau pan fydd yr haul yn dechrau machlud, dyma ychydig o bethau i’w cofio:

  • Sicrhewch fod eich barbeciw mewn lle diogel ar fan cadarn (nid ar y llawr gan fod y tywod yn mynd yn BOETH IAWN ac yn cadw’r gwres). Sicrhewch fod pawb yn yr ardal yn ymwybodol bod y barbeciw wedi’i gynnau ac yn BOETH
  • Pan fyddwch chi wedi gorffen, gwlychwch y barbeciw â dŵr oer a sicrhewch eich bod yn cael gwared arno’n ddiogel mewn un o’r BINIAU BARBECIW a ddarperir ym:
  • Mae Abertawe (ger Bar ‘The Secret’ ger y traeth ar y Promenâd)
  • Bae Rotherslade
  • Bae Langland
  • Bae Caswell

Os nad oes bin ar gael, ewch â’r barbeciw gartref gyda chi i gael gwared arno – sicrhewch ei fod wedi ei DDIFODD YN LLAWN ac yn OER cyn cyffwrdd â’r barbeciw a’i symud mewn cynhwysydd gwrthdan e.e. bwced galfanedig

  • PEIDIWCH â chladdu’r barbeciw gan fod y glo A’R tywod cyfagos yn cadw eu gwres am oriau a gallant LOSGI traed neu blant sy’n chwarae yn y tywod YN DDIFRIFOL
  • PEIDIWCH â rhoi’r barbeciw mewn biniau sbwriel neu ailgylchu oherwydd gallai hyn achosi tân (hyd yn oed os ydych chi’n meddwl bod y glo’n oer)
  • Rhowch weddill eich sbwriel yn y biniau neu finiau ailgylchu os maent ar gael, er mwyn lleihau’r risg i bobl eraill ar y traeth neu fywyd y môr
  • Peidiwch â dod â photeli gwydr ar y traeth gan eu bod nhw’n beryglus iawn, yn enwedig i blant sy’n chwarae yn y tywod
  • Sylwer NI CHANIATEIR cynnau tanau agored ar y traeth neu’r ardal gyfagos gan nad oes modd cael gwared arnynt yn ddiogel ac mae’r cerrig a’r tywod poeth yn gallu achosi llosgi difrifol.

DIOLCH! – rydym ni am gadw ein traethau’n brydferth ac yn ddiogel i bobl AC i fywyd y môr hefyd!