fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r ardal. Darllenwch ymlaen i gael gwybod am sut i ymweld yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn gynaliadwy.

Lle sy’n cael ei rannu

Mae’r ffyrdd o gwmpas Gŵyr yn gartref i fywyd gwyllt a da byw – cofiwch hyn pan fyddwch yn gyrru, caewch gatiau ar eich ôl a chadwch gŵn ar dennyn wrth groesi tir ffermio. Darllenwch y Côd Cerdded Cŵn.

Tir a môr

Does dim byd fel trochfa yn y môr, ond gall llanwau cyflym a cherhyntau terfol beryglu pobl yn annisgwyl.Ewch i’n tudalen Chwarae’n Ddiogel i gael gwybod pa draethau sy’n cael eu goruchwylio gan achubwyr bywydau, sut i wirio amserau’r llanw a chael rhagor o gyngor ar ddiogelwch yn y dŵr.

Mae’r llwybrau a’r golygfeydd sydd ar gynnig yma’n wych i gerddwyr ond gall y rheini sy’n anghyfarwydd â’r dirwedd wledig ei chael hi’n anodd dod o hyd i’w ffordd. Darllenwch am gerdded ger da byw yma a gallwch gael cyngor ar gerdded yn ddiogel o ran llwybr yr arfordir a llanwau yma.

Yr amgylchedd

Mae Bae Abertawe a Gŵyr wedi’u cydnabod am eu harddwch naturiol eithriadol. Pan fyddwch yn ymweld, gwnewch yn siŵr eich bod yn trin yr amgylchedd â pharch drwy beidio â tharfu ar y bywyd gwyllt a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi. Darllenwch am y protocol barbeciws tafladwy yma.

Os ydych yn awyddus i adael y car gartref, gwasanahttps://www.abertawe.gov.uk/bbqbeachethir Bae Abertawe gan fysus ac mae ganddo ystod dda o lwybrau beicio.