fbpx
Wythnos RETRO y Mwmbwls - Castell Ystumllwynarth
2 - 4 Mehefin

… a chysylltwch â chwsmeriaid newydd sy’n chwilio am wyliau gartref ym Mae Abertawe yn 2023.

Er mwyn cefnogi busnesau lleol cafodd holl gostau pecyn 2020 Partneriaid Croeso Bae Abertawe eu had-dalu gan Gyngor Abertawe. Yn 2021, parhaodd y cyngor i gynnig Pecyn Marchnata Croeso Bae Abertawe lefel mynediad am ddim i bob busnes twristiaeth a lletygarwch cymwys.

Er mwyn parhau i gefnogi twristiaeth a lletygarwch lleol, mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi na fydd cost i ddod yn Bartner Croeso Bae Abertawe ar lefel mynediad, wrth i’r cyngor barhau i gefnogi busnesau lleol yn y cyfnod adfer.

Gall pob busnes twristiaeth gael gwedudalen am ddim ar croesobaeabertawe.com a chymryd rhan yn yr ymgyrchoedd marchnata cyrchfannau sy’n para blwyddyn. 

Os yw partneriaid yn dymuno hybu eu proffil, yna mae cyfleoedd ychwanegol y telir amdanynt hefyd ar gael. Gall trefnwyr digwyddiadau hefyd gyrraedd cynulleidfa fwy trwy brynu Pecyn Digwyddiadau Joio.

Archwiliwch y dolenni isod i ddarganfod sut gallai eich busnes neu ddigwyddiad twristiaeth elwa yn 2023.