Tirwedd Genedlaethol Gŵyr – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe’i dynodwyd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU ym 1956, ac mae’n hyfryd dweud nad yw wedi newid llawer ers hynny!
Ar y Traeth
O aros ar dir sych, byddwch chi’n colli cyfle! Mae rhai o’r tonnau gorau ym Mhrydain yno, ac mae Llangynydd wedi bod yn boblogaidd gyda syrffwyr ers degawdau. Mae Bae Rhosili wedi bod yn cael rhywfaint o sylw ar lwyfan y byd hefyd.
Gall y rhai sy’n hoff o adrenalin fynd i arfordiro – dringo’r clogwyni a neidio i’r tonnau islaw – nid rhywbeth i’r gwangalon! Sicrhewch fod gennych gwmni proffesiynol bob amser – mae nifer o ddarparwyr gweithgareddau a hoffai glywed gennych.
Ewch i draethau syfrdanol Gŵyr i weld beth yw testun yr holl ffwdan.
Arfordir a Chefn Gwlad
Mae’r penrhyn 19 milltir o hyd yn dechrau yn y Mwmbwls ac yn ymestyn tua’r gorllewin. Mae’n enwog am ei forlin brydferth a’i draethau (o draeth helaeth Bae Rhossili i rai bychan a diarffordd, fel Pwll Du), ac mae’n un o hoff gyrchfannau cerddwyr a syrffwyr. Ar y tir, cewch goetir cysgodol a glaswelltiroedd tonnog; tafarnau gwledig a bwyd blasus.
Nid yw’n syndod bod cerdded ym Mhenrhyn Gŵyr mor boblogaidd – mae’n gartref i rai o’r rhannau mwyaf prydferth o Lwybr Arfordir Cymru (er ein bod ni’n rhagfarnllyd). Gwisgwch eich esgidiau glaw a byddwch yn barod am daith gerdded wefreiddiol ar hyd y glannau. Nid môr a thywod yw’r stori gyfan – byddwch yn dod ar draws coetiroedd toreithiog a golygfeydd cefn gwlad hyfryd ar hyd y ffordd. Hefyd, mae gennym arweiniad a map cerdded am ddim os oes gennych ddiddordeb. Edrychwch ar ein tudalen lawrlwytho am fwy o wybodaeth.
Rhowch gynnig ar rai o ddanteithion lleol, fel cocos Penclawdd o Foryd Llwchwr, cig oen morfeydd heli sy’n toddi yn eich ceg a’r bara lawr enwog (gwymon!).
Harddwch Naturiol Eithriadol
Mae Penrhyn Gŵyr yn cwmpasu 188 km sg. a chafodd ei ddewis fel AoHNE gyntaf y DU am ei forlin glasurol (Arfordir Treftadaeth yw llawer ohono) a’i amgylchedd naturiol eithriadol (mae 33% yn Warchodfa Natur Genedlaethol neu’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig).
Mae amgylchedd naturiol amrywiol y penrhyn yn enwog am ei rostir, ei laswelltir calchfaen, ei forfeydd dŵr croyw a heli, ei dwyni a’i goetiroedd derw. Mae ei ddaeareg gymysg wedi arwain at amrywiaeth eang o olygfeydd mewn tirwedd gymharol fach. Mae clogwyni calchfaen dramatig, â thraethau tywodlyd a glannau creigiog rhyngddyn nhw, yn amlwg ar hyd ei arfordir deheuol. Yn y gogledd, mae’r arfordir yn isel â morfeydd heli helaeth a systemau twyni.
Teithio’n ôl mewn Amser
Mae o leiaf 1200 o safleoedd archaeolegol yn yr AoHNE o gyfnodau a mathau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys ogofeydd, caerau’r Oes Haearn, cestyll canoloesol, eglwysi, goleudy a pharciau’r 19fed ganrif. Mae 73 o’r rhain o bwys cenedlaethol, gyda 124 yn adeiladau rhestredig.
Mae rhan orllewinol yr AoHNE wedi’i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru, am dystiolaeth gyfoethog olyniaeth hir o ddefnydd tir a deiliadaeth o’r cyfnodau cynhanesyddol i ddiwydiannol. Mae hyn yn cynnwys caerau’r Oes Haearn a system gaeau agored ganoloesol (a adwaenir fel y Vile, ger Rhosili).
Bwrw’ch Blinder a Magu Nerth Newydd
Os yw hyn wedi codi awydd arnoch, mae amrywiaeth hyfryd o lety ym Mhenrhyn Gŵyr, gyda gwestai, rhandai, carafanau a gwersyllfaoedd. O’r moethus i’r syml, mae rhywbeth at ddant a phoced pawb. Edrychwch ar y lleoedd i aros ym Mhenrhyn Gŵyr os ydych yn ystyried ymweld ac, wrth gwrs, dylech wneud hynny (gweler isod am fwy)!