Os byddwch yn chwilio am Fae Abertawe yn y geiriadur (ein geiriadur), fe welwch lun o draeth tywodlyd gwefreiddiol. Mae’r traethau yma wedi ennill gwobrau, a llu ohonynt – gan gynnwys y degfed traeth gorau yn y byd. Anhygoel! Beth am ystyried Bae Abertawe ar gyfer gwyliau traeth?
Mae’n anodd sôn am benrhyn Gŵyr heb sôn am Fae Rhosili. Cyfeirir ato fel “model traethau Prydain” ac mae wedi ennill acolâdau fel “Traeth Gorau Prydain” a “Hoff Le Picnic y DU”. Mae’n hafan bywyd gwyllt gyda sawl brîd gwahanol o adar yn nythu yn y clogwyni – felly dewch â’ch ysbienddrychau.
Os ydych am weld tonnau, ewch i Fae Langland, Bae Caswell neu Langynydd, cyffrowch eich adrenalin a neidiwch ar eich bwrdd syrffio! Bae Oxwich a Horton yw’r rhai sy’n addas i deuluoedd; maent yn eang ac yn ddiogel gyda digon o dywod i fod yn greadigol gyda cherflunio tywod. Mae llawer o draethau ym Mae Abertawe sy’n addas i gŵn hefyd – sy’n golygu y gall hyd yn oed aelodau pedair coes blewog eich teulu fwynhau.
Nid oes angen i chi deithio’n bell o ganol y ddinas i fwynhau’r arfordir. Mewn gwirionedd, ychydig funudau’n unig mae traeth Bae Abertawe, a’i Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon Dŵr!
Ewch ychydig ymhellach o’r ddinas, o amgylch pen y Mwmbwls, a byddwch yn darganfod Bae Bracelet. Mae’n wych i archwilio pyllau trai a gallwch fwynhau hufen iâ blasus a golwg dros oleudy’r Mwmbwls hefyd.
Am brofiad mwy anghysbell, ewch i Fae’r Tri Chlogwyn, lle gallwch weld clogwyni calchfaen gwefreiddiol. Mae coedwig a chastell gerllaw i’w harchwilio hefyd. Crwydrwch o Rosili i Fae Mewslade os ydych yn mwynhau clogwyni môr serth a golygfeydd syfrdanol.
Mae rhai o drysorau cudd Gŵyr yn cynnwys Pwll Du, un ar gyfer pobl fwy anturus oherwydd ei fod ar waelod cwm a 3 llwybr cerdded yn unig a geir i gyrraedd yno. Mae Cildraeth Brandi’n debyg o ran bod yn anghysbell, ond mae’n cynnig golygfeydd godidog. Os oes awydd arnoch i archwilio golygfeydd Bae Abertawe ar gefn ceffyl, gallwch fynd i un o’r ysgolion marchogaeth ar y glannau.
I gael mwy o wybodaeth am yr holl draethau ar y wefan hon a map defnyddiol i ddangos yn union ble maen nhw, lawrlwythwch y llyfryn hwn sydd am ddim. Lawrlwythwch eich Llyfryn Traethau Am Ddim <>.
Neu gallwch bori trwy’r rhestr lawn o draethau yma yn dewchifaeabertawe.com.