fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Cerdded

Share

Cerdded yn Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr

Meddwl am estyn eich coesau o amgylch Abertawe, y Mwmbwls a’r Gŵyr? Cerdded yw un o’r pethau mwyaf poblogaidd i’w wneud yma. Dyna’r hyn y mae ein harolwg yn ei ddweud. Ac nid ydym yn synnu – mae’r llwybrau y gellir eu cerdded yn hynod o arbennig. Ewch am dro ar hyd y prom neu os ydych am rywbeth mwy heriol, cerddwch ar hyd gweundir, ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr neu drwy goedwigoedd, dewiswch chi. Mae digon o deithiau cerdded gyda thafarndai hyfryd ar hyd y daith. Y lleoliad perffaith i aros a chael diod ac edmygu’r golygfeydd dros beint o gwrw lleol!

 

Lliw Valley Reservoir walks (Swansea, Wales)

 Lwybrau Ychwanegol >>

 

Yr Awyr Agored

Mae’n wych mynd i’r awyr agored, ac mae digon o lwybrau cerdded gwych yma. Gall y grŵp cyfan adolygu eu hanes gydag adeiladau a thirnodau hyfryd ar hyd y ffordd. Dewch i gerdded llwybrau hyfryd Dyffryn Lliw, lle nad oes angen i chi fod ger yr arfordir i weld y dŵr! Ym Mae Abertawe, gallwch gerdded ar hyd 400 milltir o hawliau tramwy cyhoeddus. Beth am ddringo i Benlle’r Castell a byddwch ar bwynt uchaf Abertawe, gyda golygfeydd anhygoel, ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig! Ar hyd y llwybrau, gallwch weld y pentrefi pysgota prydferth, y trefi a’r pentrefi bywiog a hyd yn oed teimlo fel rhan o’r teulu brenhinol mewn ambell gastell anorchfygol. Gan gerdded i bwynt mwyaf gorllewinol Gŵyr, fe ddewch i bentref hyfryd Rhosili, sy’n gartref i deithiau cerdded penigamp

 

Penlle'r Castell walk

 

 

Llwybr Arfordir Cymru

Agorodd un o uchafbwyntiau cerdded Abertawe a’r Gŵyr yn 2012, ac rydym yn dwlu arno! Mae Llwybr Arfordir Cymru yn galluogi cerddwyr i archwilio arfordir Cymru bron i gyd, ac mae hynny’n llawer o arfordir i’w goncro! Mae cerdded drwy dreftadaeth, cymunedau a thirluniau o’r radd flaenaf yn gwneud hwn yn lle arbennig iawn.  Fe’i cefnogir gan gyrff y Llywodraeth ac arian Ewrop, mae’r llwybr arbennig hwn yn cael ei gynnal yn ardderchog ac mae ar gael i bawb ei fwynhau. Cadwch lygad am gaffi bach i chi gael mwynhau cacen neu hufen iâ cwbl haeddiannol!

Os ydych yn cerdded ar eich pen eich hun neu fel grŵp, er mwyn treulio diwrnod neu ychydig oriau, mae gennym sefydliadau ac arbenigwyr a fydd yn gallu eich helpu gyda’ch teithiau cerdded.

Edrychwch ar rai o’n llwybrau cerdded gwych yn Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.

 

Wild Gower Ponies