fbpx
Cymerwch gip ar beth sy'n digwydd ym Mae Abertawe...
Rhagor o wybodaeth...

Abertawe

Dinas Glannau Cymru

Penrhyn Gwyr

AoHNE gyntaf y DU

Share

Bae Abertawe: 5 Cyrchfan Unigryw

Bae Abertawe yw'r enw a ddefnyddir gennym i gynnwys pum profiad gwych yn un. Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Ym Mae Abertawe, cewch y gorau o'r ddau fyd - bydd y rhai sy'n dwlu ar y môr a'r lan yr un mor gartrefol yma. Mae Bae Abertawe'n enwog am ei draethau Baner Las, ond mae'r mannau gwyrdd hefyd yn werth eu gweld. Rhan o'r darlun mawr yn unig yw'r môr a'r traeth, gan fod Abertawe'n gartref i fwy na 50 o barciau a gerddi (a choedwig law dan do).