fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Anfonwch ddarn bach o'u Lle Hapus atyn nhw

VSB gift boxYn dwlu ar Fae Abertawe? Ydych chi am weld rhagor o’r Mwmbwls? Yn meddwl bod Gŵyr yn odidog?

Os ydych chi a’ch teulu wedi colli’r cyfle i gael gwyliau neu seibiant byr ym Mae Abertawe eleni neu os hoffech gael rhywbeth i’ch atgoffa o’ch ymweliad – yna lapiwch ychydig o hud y gwyliau fel anrheg!

…a threfnu’r cyfan wrth i chi fwynhau paned ar eich soffa!

Gallwch ddewis o ddanteithion blasus Gŵyr, taleb ar gyfer un o’ch hoff fwytai neu drefnu’ch profiad rhodd eich hun ar gyfer gwyliau yn y dyfodol neu seibiant byr i’r person arbennig hwnnw yn eich bywyd.

 

Mae tair ffordd i roi rhodd i’w chofio … rhoddion drwy’r post, talebau anrhegion neu brofiad arbennig… gallwch ddarganfod sut isod!*

*Ym Mae Abertawe rydym am sicrhau eich bod chi a derbynnydd eich anrheg yn hapus gyda’ch dewis – felly sicrhewch eich bod chi’n gwbl ymwybodol o’r amodau a thelerau, yr amodau canslo a’r dyddiadau dod i ben sydd ynghlwm â’r talebau anrheg a phrofiadau cyn i chi brynu.