Llwybr Arfordir Gŵyr
Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn cynnwys holl amrywiaeth ein harfordir hyfryd, o draethau euraid eang a chlogwyni syfrdanol i forfa heli a thwyni tywod – ac wrth gwrs mae hynny’n golygu bod hefyd amrywiaeth eang o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y ffordd – felly sicrhewch fod gennych ysbienddrych – a’ch camera!
Mae gwelliannau diweddar yn golygu bod rhai rhannau o Lwybr yr Arfordir bellach yn hygyrch i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn – mae rhannau rhwng Limeslade a Bae Caswell – sy’n golygu bod hyd yn oed mwy o bobl yn gallu mwynhau ein harfordir.
Cadwch lygad am gaffi i chi gael mwynhau teisen neu hufen iâ cwbl haeddiannol ar ôl i chi gerdded!
P’un a ydych chi ar wyliau cerdded am wythnos neu allan am ychydig oriau’n unig, mae gennym ddetholiad o lwybrau arfordirol sy’n amrywio o ‘hawdd’ i ‘heriol’.
Cymerwch gip ar ein tudalennau Llwybrau Cerdded i ddewis eich rhan (neu’ch rhannau!) o’r llwybr i’w cerdded ac ewch i fyd o forweddau trawiadol, clogwyni garw a bryniau gwyrdd – cymerwch anadl ddwfn, brasgamwch yn eich blaen ac yn fuan byddwch wedi gadael eich holl ofalon ar y llwybr – y tu ôl i chi.

Nid dyna’r cyfan!
Mae ein Llwybr Arfordir hyfryd yn rhan o rwydwaith llawer ehangach; Mae Llwybr Arfordir Cymru yn galluogi cerddwyr i archwilio arfordir Cymru bron i gyd, ac mae hynny’n llawer o arfordir i’w goncro! Gan eich arwain trwy dreftadaeth, cymunedau a thirweddau godidog ein gwlad.

Cerdded yn ddiogel
Cofiwch aros yn ddiogel wrth fynd am dro ar hyd yr arfordir; gwisgwch yn briodol ar bob adeg ar gyfer y tir a’r tywydd, dilynwch y llwybr a gadewch gefn gwlad fel y daethoch o hyd iddo!
Byddwch yn arbennig o ofalus pan fydd y llwybr troed yn agos at ymyl y clogwyn – yn enwedig ar ôl glaw trwm neu stormydd oherwydd gall rannau o ymyl y clogwyn fod yn rhydd.
Os ydych yn cerdded ger y draethlin, yna cadwch lygad ar y llanw – gall droi’n gyflym yma gan achosi ymchwydd llanw neu lanw terfol; yn enwedig ym Mae y Tri Chlogwyn, Burry Holms a Sarn Pen Pyrod. Gall Canolfan Gwylio Arfordir Pen Pyrod, Rhosili eich helpu i gynllunio’ch taith gerdded yn ddiogel.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk
Dolenni ychwanegol
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...
Lles
Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…
Addas i Gŵn
Does dim rhaid i'ch anifail anwes aros gartref pan fyddwch yn archwilio Bae Abertawe oherwydd…
Pethau i’w Dwneud yn yr Awyr Agored
Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Llwybrau Cerdded
Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.