Llwybr Gŵyr

Mae Llwybr Gŵyr a agorwyd gan Dywysog Cymru ym 1998, yn rhedeg 35 milltir (56km) o Rosili yn ne-orllewin eithaf penrhyn Gŵyr i Benlle'r Castell yn ucheldiroedd Mawr (mae hwn yn drawstoriad o'r ardal a gwmpaswyd gan arglwyddiaeth hynafol Gŵyr).

Gan fod gan ardal Gŵyr hanes hir o anheddu, bydd y llwybr yn mynd â chi heibio i amrywiaeth o safleoedd hanesyddol trawiadol, o garneddau a meini hirion hynafol (gan gynnwys Maen Ceti, heneb gladdu Neolithig) a gwrthgloddiau i hen ffynhonnau cysegredig, cestyll Normanaidd a chapeli.

Mae daeareg amrywiol ac amgylchedd naturiol Gŵyr hefyd yn sicrhau bod y llwybr, er ei fod yn gymharol fyr am lwybr pellter hir, yn teithio drwy ystod eithriadol o amrywiol o olygfeydd, o'r traeth trawiadol yn Rhosili, dros lwyfandir calchfaen hindreuliedig a thir amaeth bryniog i ucheldiroedd a rhos fwy gwyllt bryniau Mynydd y Gwair.

Gower Pilgrimage Way logo

Llwybr Pererindod Gŵyr

Mae Llwybr Pererindod Gŵyr yn llwybr 50 milltir o hyd sy'n cysylltu pob un o'r 17 eglwys hanesyddol ym mhenrhyn Gŵyr yn ogystal â nifer o gapeli a safleoedd Cristnogol eraill ar hyd y ffordd.

Ewch i wefan Llwybr Pererindod Gŵyr.

Llwybrau cerdded Llwybr Gŵyr

Gellir rhannu'r llwybr yn dair rhan, fel a ganlyn:

De (Rhosili - Pen-maen) tua 8 milltir / 13km)
Canol (Pen-maen - Tregŵyr) tua 12 milltir / 19km)
Gogledd (Tregŵyr - Penlle’r Castell): tua 15 milltir / 24km)

Y mapiau sydd eu hangen: 'Ordnance Survey Explorer' 10, 164, 165

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.