Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe: Nos Iau 5 Tach

Gorymdaith y Nadolig Abertawe- 22 Tach

Arddangosfeydd

Comedi

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Yn ein harweiniad, cewch hyd i ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Abertawe gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, sef digwyddiad am ddim mwyaf Cymru, digwyddiadau chwaraeon mawr fel 10k Bae Abertawe ac Ironman 70.3 Abertawe, cyngherddau ym Mharc Singleton, ffefrynnau tymhorol fel Gŵyl Croeso, Gorymdaith Nadolig Abertawe a llawer mwy.  

Cynhelir llu o ddigwyddiadau gwych o gyngherddau a sioeau yn Arena Abertawe, Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn, i gerddoriaeth fyw mewn lleoliadau penigamp yng nghanol y ddinas sy'n arddangos y doniau lleol gorau, i arddangosfeydd yn ein hamgueddfeydd a'n horielau, a mwy.  

Oes gennych chi ddigwyddiad yr hoffech ei ychwanegu at ein hadran 'Digwyddiadau'? Gallwch ei gyflwyno am ddim i'w gynnwys yn ein rhestr o ddigwyddiadau yma. 

Digwyddiadau dan sylw

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Bydd arddangosfa tân gwyllt Cyngor Abertawe’n dychwelyd nos Iau 5 Tachwedd yn lleoliad newydd PARC SINGLETON! Ymunwch â ni am noson o adloniant ar thema hud a mytholeg a thân gwyllt yn arddangosfa fwyaf a mwyaf diogel Abertawe. Cefnogir gan Gynnig Gofal Plant Cymru

Nov 05

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Bydd arddangosfa tân gwyllt Cyngor Abertawe’n dychwelyd nos Iau 5 Tachwedd yn lleoliad…

Nov 05

Abertawe’n Cofio

Ar yr unfed awr ar ddeg o’r unfed diwrnod ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg, ni…

Nov 11

Gorymdaith y Nadolig Abertawe a Chynnau Goleuadau'r Nadolig

Bydd dathliad Nadoligaidd mwyaf Cymru'n dychwelyd ym mis Tachwedd, gan ddod â noson…

Nov 22

Darganfyddwch beth sy'n digwydd yn Abertawe

Gwiriwch ein rhestr isod o'r holl ddigwyddiadau sydd yn yr arfaeth yn Abertawe, a defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r digwyddiad o'ch dewis

Digwyddiadau yn ôl categori

Arddangosfeydd

Mae Bae Abertawe'n gartref i amrywiaeth eang o orielau celf, amgueddfeydd a chanolfannau sy'n golygu, p'un a ydych yn hoff o gelfyddyd gain, cerameg, celf gyfoes neu unrhyw fath arall o…

Digwyddiadau Chwaraeon

Gyda'u milltiroedd o forlin a thraethau trawiadol, mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn darparu'r cefndir perffaith ar gyfer digwyddiadau chwaraeon anhygoel.  

Comedi

Ydych chi am gael hwyl? Ni fyddai ymweliad â Bae Abertawe'n gyflawn heb fwynhau noson o gomedi.

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.

Addas i Deuluoedd

Abertawe yw'r lle perffaith i gael hwyl fel teulu, boed law neu hindda. Mae amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau anhygoel i'w harchwilio lle cynhelir arddangosfeydd drwy'r flwyddyn gron a…

Ychwanegwch eich digwyddiad

Ni yw cartref digwyddiadau yn Abertawe a gallwch ychwanegu eich digwyddiad at ein rhestrau am ddim - dyma gyfle gwych i gyflwyno eich digwyddiad i filoedd o ymwelwyr yn ddyddiol.