Rhowch brofiad fel anrheg
Gallwch drefnu Profiad Anrheg penodol i rywun – rhywbeth i roi gwên ar ei wyneb – ac eto wrth iddo/iddi fwynhau’r profiad! Gallwch fod yn greadigol iawn! Ydy’r derbynnydd lwcus bob amser wedi bod eisiau rhoi cynnig ar weithgaredd? Aros dros nos yn rhywle unigryw? Mwynhau pryd o fwyd gan edrych dros draeth hyfryd? Neu hyd yn oed y tri ohonyn nhw? Gallwch wneud i hyn ddigwydd!
I roi anrheg profiad, dewiswch o blith y syniadau parod hyn, neu cysylltwch ag unrhyw un o’r busnesau isod neu ar ein gwefan i drafod eich cynlluniau unigol.
Profiad bwyd
Beach House at Oxwich Bay
Rhowch brofiad blasus yn y Beach House, sydd wedi ennill seren Michelin, gydag amrywiaeth o dalebau anrhegion, gan gynnwys rhai ar gyfer bwydlen flasu chwech neu wyth cwrs wedi'i pharatoi gan y cogydd Hywel Griffith i'w mwynhau wrth i chi edrych dros fae Oxwich. Mwy o wybodaeth.
Gower Brewing Co Ltd – Tours
Gower Gin
The New Gower Hotel
Beth am roi'r cyfle i fwynhau trysor cudd ym mhenrhyn Gŵyr fel anrheg? Gallwch ddewis i aros yn y gwesty dros nos gyda brecwast, cinio tri chwrs neu ginio dydd Sul blasus. Rhywbeth i edrych ymlaen ato! Mwy o wybodaeth.
Profiad Antur
Adventure Britain
Arena Abertawe
Beth am brynu noson fythgofiadwy i'ch anwyliaid, gyda seddi VIP a mynediad at lolfa breifat yn Arena Abertawe yn 2025? Mae'r anrheg arbennig hon yn berffaith ar gyfer pobl sy'n dwlu ar sioeau, ac mae'n cynnig seddi o safon ac atgofion y byddant yn eu trysori. Mwy o wybodaeth.
Profiad Her Go Ape ym Mrigau'r Coedo Ape
Os ydych chi am roi profiad bythgofiadwy fel anrheg i'ch ffrindiau a'ch teulu, rydych chi wedi cyrraedd y lle cywir. Yr Her ym Mrigau'r Coed yw'r her fwyaf ymysg ein hanturiaethau rhaff uchel a dyma'r anrheg berffaith ar gyfer y rheini sydd am wthio'u hunain i'r eithaf yn yr awyr agored. Mwy o wybodaeth.
LC Swansea
Man Geni Dylan Thomas
Mae man Geni Dylan Thomas yn cynnig amrywiaeth o dalebau gan gynnwys teithiau tywys o'r tŷ, cyfle i aros dros nos, profiadau bwyta a theithiau tywys o'r ardal yn ein dolen Talebau Anrhegion. Mwy o wybodaeth.
Chwaraeon Dŵr Oxwich
Beth am brynu antur hwylio i'ch anwyliaid gyda'n talebau i logi dingi? Cynhelir y sesiynau ym mae hardd Oxwich, ac maent yn addas ar gyfer dechreuwyr a hwylwyr profiadol. Profwch gyffro'r môr - rhowch antur fel anrheg heddiw! Mwy o wybodaeth.
Sŵ Trofannol Plantasia
Profiadau ag anifeiliaid VIP: Dewch i fwynhau ein bywyd gwyllt gyda'n harweinwyr arbenigol! Taith Ceidwad Sŵ, Bwydo Crocodeilod yn 'Fort Crox' a Chyfleoedd Cwrdd ag Anifeiliaid Rhyngweithiol. Cadwch le ar-lein i gael antur fythgofiadwy yn ein sw coedwig law drofannol! Ni ellir ad-dalu tocynnau ond mae hyblygrwydd o ran newid dyddiad. Mwy o wybodaeth.
Plantasia Jungle Escape
Byddwch yn barod am noson gyffrous yn y tywyllwch gyda Jungle Escape! Mae ystafell ddianc 60 munud fwyaf y byd yn eich herio i ddod o hyd i'r ffordd allan o'n sw dan do bob nos Wener. Dewch i ddatrys posau, osgoi creaduriaid y jwngl a phrofi eich sgiliau yn yr ystafell ddianc unigryw hon! Cadwch le ar-lein a dewch â'ch tîm dewraf. Mwy o wybodaeth.
Progress Surf School
The SUP Hut
Gall SUP Gower lunio profiad bythgofiadwy ar gyfer eich ffrindiau a'ch teulu. Oes gennych rywun sy'n dwlu ar anturiaethau ar eich rhestr? Yna gallwch brynu profiad newydd sbon, sef profiad bwrdd syrffio â motor! Mae'r profiadau padlo ar adain wynt neu badlfyrddio'n gyffrous iawn hefyd! Mwy o wybodaeth.
Profiad dros nos
Morgans Hotel
Mae Gwesty Morgans yn gweithio mewn partneriaeth â stadiwm Swansea.com i gynnig profiadau VIP 'Gwyliau yn Ninas Abertawe' ar gyfer gemau pêl-droed Dinas Abertawe penodol y tymor hwn, felly dyma'r anrheg berffaith ar gyfer y bobl yn eich bywyd sy'n dwlu ar yr Elyrch! Mae'r pecynnau'n cynnwys tocynnau VIP i wylio gêm, cyfle i aros yn y gwesty dros nos a mwy! Mwy o wybodaeth.
The New Gower Hotel
Beth am roi'r cyfle i fwynhau trysor cudd ym mhenrhyn Gŵyr fel anrheg? Gallwch ddewis i aros yn y gwesty dros nos gyda brecwast, cinio tri chwrs neu ginio dydd Sul blasus. Rhywbeth i edrych ymlaen ato! Mwy o wybodaeth.
Parc-le-Breos
Beth am adeiladu'r anrheg berffaith? Gallwch adeiladu profiad unigryw i'ch anwylyn ei fwynhau yn y caban hela hyfryd hwn o Oes Fictoria yng nghanol penrhyn Gŵyr - o de prynhawn i brydau cartref blasus - neu beth am gynnwys y ddau mewn seibiant byr o safon? Mwy o wybodaeth.
Darganfod rhagor
Talebau Anrhegion
Rhowch anrheg y gallwch ei mwynhau yn y dyfodol...
Syniadau am Anrhegion Drwy'r Post
Ychydig o Fae Abertawe wedi'i ddosbarthu'n uniongyrchol i'ch anwyliaid!
Ysbrydoliaeth
Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych, bywyd gwyllt a chwaraeon dŵr yn ogystal â hufen iâ, bwyd y môr a golygfeydd o'r môr! Os ydych…
Gwyliau Rhamantus
Mwynhewch daith gerdded ar hyd un o'n traethau diarffordd, pryd o fwyd hynod flasus yng ngolau cannwyll yn un o'n bwytai, noson yn syllu ar y sêr o dan flanced neu benwythnos cyffrous yn cymryd rhan mewn sesiwn…
Siopa
Mae Abertawe'n lle gwych i fwynhau ychydig o siopa.