Traeth Porth Einon

Mae traeth arobryn Porth Einon yn ddiogel ac yn dywodlyd, ac mae wedi ennill Baner Las a Gwobr Glan Môr. Mae hefyd yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr – ewch i’r dŵr a rhowch gynnig arno!

Sut i gyrraedd yno

Gellir ei gyrraedd mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 1NN).

Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

 

Cyfleusterau

Maes Parcio: Tua 100m o’r traeth, wedi’i gynnal gan Gyngor Abertawe, manylion a thaliadau.

Toiledau: Mae toiledau hygyrch a chawod awyr agored.

Lluniaeth: Mae sawl man gwerthu bwyd yn y pentref – cymerwch gip ar ein tudalennau lleoedd i fwyta.

Cludiant cyhoeddus: Oes, gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cŵn: Mae cŵn yn cael eu gwahardd o 1 Mai i 30 Medi.

Mynediad i gadeiriau olwyn: Oes. Mae rhai seddi yn agos i’r maes parcio hwn a llwybr estyll i’r traeth (ond gyda thywod symudol, gall hyn weithiau arwain at ‘gam i lawr’ oddi ar y ramp i’r tywod).

Achubwyr Bywydau:
Rhwng mis Mai a mis Medi. Bydd dyddiadau 2025 ar gael yn y gwanwyn.

Mae Porth Einon yn draeth dim smygu gwirfoddol.

A young girl playing at Port Eynon Bay Beach
A couple sitting on Port Eynon Bay Beach

Arhoswch yn ddiogel!

Mae Porth Einon yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr. Mae achubwr bywydau ar gael yn ystod misoedd yr haf ond byddwch yn ofalus rhag y lan greigiog.

Archwiliwch ragor