Natur a Bywyd Gwyllt ym Mae Abertawe
Blackpill
Mae Blackpill yn ardal rhwng Abertawe a’r Mwmbwls (SA3 5AS) ac mae’n lleoliad gwylio adar sy’n cael ei barchu. Fe’i gwnaethpwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ym 1986 i gydnabod ei phwysigrwydd ar gyfer adar lleol a mudol sy’n aros yno wrth iddynt fudo. Yn ystod misoedd y gaeaf gallwch weld pibydd y tywod, cwtiaid torchog a phïod y môr. Mae’r gwastadeddau llaid yn darparu ffynhonnell fwyd gyfoethog i greaduriaid di-asgwrn-cefn.

Parc Gwledig Dyffryn Clun
Mae unig barc gwledig Abertawe (SA2 8EW) yn cynnwys 700 erw o fryniau agored a choediog, ceunentydd serth a chwareli i ddolydd a llawr gwlyb y dyffryn. Mae natur wedi meddiannu’r mannau yn y parc lle dechreuodd diwydiant ac mae adar fel drywod a theloriaid y cnau yn ogystal â throellwyr a theloriaid penddu i’w cael yno. Clustfeiniwch am gnocellod y coed. Mae’r ardal hefyd yn gartref i foch daear a chadnoid ac mae’r afon Clun yn ystumio drwyddo.

Ydych chi'n cynllunio'ch taith?
Teithio Hwnt ac Yma
Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a…
Bod yn Gyfrifol
Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r…
Gweithgareddau
Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael…
Ysbrydoliaeth
Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych…
Gŵyr
Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…
Natur a Bywyd Gwyllt ym Mae Abertawe
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad…
Beicio
Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…
Archwiliwch ragor
Natur a Bywyd Gwyllt
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad daearyddol yn cwmpasu’r arfordir a chefn gwlad, o fewn hanner awr gallwch fynd o nofio yn y môr gyda gwymon yn gogleisio’ch traed i sefyll ar ben mynydd gyda boncathod a barcutiaid…