Digwyddiadau Bwyd a Diod

Oes chwant bwyd arnoch chi? Mae Abertawe yn cynnal digwyddiadau bwyd a diod penigamp bob blwyddyn, ac maent i'w cael yn ein rhestr isod. Mae gwyliau bwyd stryd lle gallwch gael blas ar fwyd a diod gorau'r DU a'r byd ynghyd â marchnadoedd wythnosol a gynhelir o gwmpas y ddinas lle ceir detholiad o'r bwydydd a'r cynnyrch lleol gorau.  

Nid digwyddiadau bwyd a diod yn unig sydd i'w cael - ewch i'n hadran 'pethau i'w gwneud' er mwyn archwilio bragdai a distyllfeydd lleol a chymerwch gip ar ein hadran bwyd a diod i archwilio'r bariau, y caffis, y bwytai a'r mannau eraill sydd i'w cael ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.  

Oes chwant bwyd arnoch o hyd?

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.  

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!