Amdanom ni
Croesobaeabertawe.com yw'r wefan ar gyfer cyrchfannau ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr, sy'n darparu hwb o wybodaeth am yr ardal ar gyfer ymwelwyr a phreswylwyr.
Mae Tîm Rheoli Cyrchfannau a Marchnata Cyngor Abertawe yn berchen ar y wefan ac yn ei rheoli. Mae'r tîm yn gyfrifol am hyrwyddo Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn fewnol ac yn allanol, gan ddenu ymwelwyr i'r ardal a marchnata digwyddiadau, lleoliadau ac atyniadau i breswylwyr lleol.
Yn ogystal â chynnwys gwybodaeth am y lleoliad, mae croesobaeabertawe.com hefyd yn cynnig y cyfle i ddarparwyr llety, bwyd a diod, atyniadau a gweithgareddau lleol ddod yn bartner a rhestru eu gwasanaethau ar ein gwefan am ddim. Darganfyddwch ragor am weithio gyda ni yma.
Cysylltwch â ni
Rydym yn gobeithio y gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch ar ein gwefan, ond os oes angen i chi gysylltu â ni o hyd, gallwch anfon e-bost atom yn Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk.
Ariannwyd datblygiad y wefan hon gan Lywodraeth y DU a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac fe'i cyflwynir gan y Fenter Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe.