Y Gaeaf

Y gaeaf yw un o'r adegau mwyaf hudol ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr gan fod dyddiau ffres y gaeaf yn berffaith ar gyfer archwilio wrth i gyfnod y Nadolig gyrraedd y ddinas.  

Mae digonedd o dafarndai a chaffis clyd lle gallwch eistedd ger y tân, p'un a ydych chi wedi bod yn archwilio'r ddinas wrth wneud eich siopa Nadolig, neu’n archwilio'r arfordir a chefn gwlad prydferth ar ddiwrnod ffres yn ystod y gaeaf.  

Gallwch hefyd ddod o hyd i fywyd nos cyffrous, ac mae canol y ddinas yn berffaith ar gyfer partïon Nadolig a phrydau i'r teulu. Ydych chi'n mwynhau'r tymor partïon? Cymerwch gip ar ein bariau a'n bwytai i weld y lleoedd gorau i drefnu eich cinio Nadolig a'ch diodydd wedi hynny, a chofiwch edrych ar ein hadran bywyd nos fel y gall y parti barhau.  

Mae'r gaeaf hefyd yn cynnwys hoff adeg pawb o'r flwyddyn - y Nadolig! Ac nid yw Abertawe'n wahanol, gan drawsnewid ar gyfer tymor y Nadolig. Mae Marchnad y Nadolig flynyddol sy'n berffaith ar gyfer prynu anrhegion a wnaed â llaw ac anrhegion Nadolig unigryw, ac mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn cynnig hwyl llawn hud. Yn bwysicaf oll, cynhelir digwyddiad blynyddol Gorymdaith y Nadolig yn ystod y cyfnod hwn hefyd, sy'n boblogaidd iawn ymysg pobl o bob oedran. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hwyl yr ŵyl yn ein hadran Nadolig Abertawe.  

Wrth i'r flwyddyn newydd agosáu, dyma'r amser perffaith i ddechrau o'r newydd. Ydych chi am gael amser i chi eich hun i ymlacio? Cymerwch gip ar ein tudalen Lles i ddod o hyd i'r syniadau lleol gorau ar gyfer sba, sawna ac ymlacio.  

Ym mis Chwefror bob blwyddyn rydym yn gallu gweld awyr y nos mewn ffordd newydd yn ystod Wythnos Awyr Dywyll, lle bydd ein cefn gwlad arbennig yn darparu'r cefndir ar gyfer sioe hollol unigryw.  

Cofiwch, hyd yn oed os yw'r tywydd yn wlyb, mae digonedd o amgueddfeydd, orielau a phethau i'w gwneud dan do i gadw pawb yn hapus.  

Bywyd Nos

Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n dawnsio drwy'r nos.  

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod o hyd i amser i ymgolli’ch hun ym myd natur er mwyn cadw’ch meddwl yn hapus a’ch corff yn iach

Awyr Dywyll

Mae Cymru’n lwcus iawn o ran awyr dywyll ac mae’r rheini a welir dros Benrhyn Gŵyr yn cael eu hystyried ymhlith y goreuon yn y wlad ar gyfer y bobl sy’n mwynhau gwylio’r sêr

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.  

Bwyd a diod gaeafol cynnes

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Gwybodaeth am docynnau Gellir prynu tocynnau o hyd ar gyfer arddangosfa tân gwyllt heno. Ewch…

Nov 05

Rhagor o ffyrdd o fwynhau Abertawe'r gaeaf hwn

Tymhorau

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn rydych chi'n ymweld â’r ardal, mae gan Fae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr olygfeydd godidog, digwyddiadau anghredadwy a llawer o ffyrdd o greu atgofion perffaith.

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren…

Blog

Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog!