Cyfleoedd Marchnata Partneriaid Croeso Bae Abertawe

Os hoffech roi hwb i'ch busnes a gwella'ch presenoldeb ar croesobaeabertawe.com neu ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, mae gennym amrywiaeth o opsiynau a chyfleoedd i'ch helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach. O negeseuon unigol wedi’u teilwra ar gyfryngau cymdeithasol, i gyhoeddi cynnwys yn y mannau mwyaf gweledol ar y wefan, i ymgyrchoedd marchnata drwy e-byst, gallwch ddewis y peth iawn i'ch busnes chi. Os ydych chi'n chwilio am fwy, mae gennym becynnau arian, aur a phlatinwm hefyd, yn ogystal â phecynnau wedi'u teilwra ar gais, i fynd â'ch busnes chi i'r lefel nesaf.

I drafod pa opsiynau fyddai'n gweithio orau i'ch busnes ag aelod o'n tîm, e-bostiwch ni yn tim.twristiaeth@abertawe.gov.uk a gallwn helpu i ddod o hyd i'r cyfuniad iawn o weithgarwch i ddiwallu anghenion eich busnes.