Arddangosfeydd

Mae Bae Abertawe'n gartref i amrywiaeth eang o orielau celf, amgueddfeydd a chanolfannau sy'n golygu, p'un a ydych yn hoff o gelfyddyd gain, cerameg, celf gyfoes neu unrhyw fath arall o gelf, bydd arddangosfa i'ch ysbrydoli.  

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yng nghanol y ddinas yn lleoliad celf am ddim sy'n fywiog ac yn ysgogol, gan roi croeso i bawb. Mae'r oriel yn cynnal arddangosfeydd o'r radd flaenaf yn rheolaidd, yn ogystal â sgyrsiau, darlithoedd a cherddoriaeth fyw.  

Bydd ymweliad ag Amgueddfa Abertawe yn rhoi cyfle i chi gwrdd â'r mymi sy'n preswylio yno, a chewch ddarganfod holl gyfrinachau mab enwocaf Abertawe yn Arddangosfa Dylan Thomas.  

Mae'r ddinas hefyd yn gartref i nifer o orielau celf annibynnol megis Galerie Simpson, Oriel Mission ac Elysium, ymysg eraill. Mae'r holl orielau annibynnol hyn, sydd ar gael ledled y ddinas, yn amlygu eu harddangosfeydd unigryw eu hunain drwy amrywiaeth o gyfryngau.  

I'r rhai hynny sydd â mwy o ddiddordeb mewn casglu gwaith celf, beth am ymweld â Gower Gallery neu Attic Gallery, neu The Lovespoon Gallery? Maent oll yn cynnig amrywiaeth eang o waith celf, sy'n aros i chi gael gafael arnynt.  

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!