Bywyd Nos
Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n dawnsio drwy'r nos.
Mae canol dinas Abertawe a'i stryd enwocaf, Wind Street, yn llawn bariau, tafarndai, clybiau nos a mwy, sy'n golygu mai dyma'r lle gorau i ymlacio gyda ffrindiau pan fydd y penwythnos yn cyrraedd.
Ydych chi'n chwilio am le i ddawnsio? Mae gan Abertawe lawer o leoliadau gwych lle gallwch wylio gig sy'n arddangos sêr newydd a thalentau lleol. Cymerwch gip ar ein hadran cerddoriaeth fyw am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi'n chwilio am fargen, ewch i'n hadran cynigion, lle gallwch ddod o hyd i gynigion ac amserau llymaid llon mewn bariau a thafarndai.
Tafarnau a Bariau
Does dim byd gwell na mwynhau diod braf mewn tafarn neu far lleol ym Mae Abertawe, ni waeth a ydych yn mwynhau'r heulwen mewn gardd gwrw neu'n cynhesu ger lle tân yn ystod misoedd y gaeaf.
Cerddoriaeth Fyw
O dafarnau clyd i fariau prysur, mae bandiau, cantorion a pherfformwyr lleol talentog yn cyfoethogi bywyd nos Abertawe. P'un a ydych yn hoff o roc, jazz, cerddoriaeth annibynnol neu acwstig, dewch o hyd i leoliad sy'n berffaith i chi.
Mwynhewch eich noson!
Comedi
Ydych chi am gael hwyl? Ni fyddai ymweliad â Bae Abertawe'n gyflawn heb fwynhau noson o gomedi.
Theatr a Chelfyddydau Perfformio
Ym Mae Abertawe, mae pob noson yn gyfle i weld sioe wahanol yn rhai o leoliadau gorau'r wlad.
Cerddoriaeth Fyw a Chyngherddau
Mae Abertawe'n lle sy'n dwlu ar gerddoriaeth, a ph'un a ydych yn chwilio am nosweithiau anffurfiol a chartrefol lle'r arddangosir y doniau lleol gorau, theatrau sy'n croesawu…