Llwybrau Cerdded Llanrhidian Uchaf

Gallwch archwilio Llanrhidian ar droed gyda’r 3 llwybr cerdded hwn.

Mae cymuned Llanrhidian Uchaf yn cynnwys pentrefi Crofty, Llanmorlais, Pen-clawdd, y Crwys a Blue Anchor. Gyda thros 38 cilometr o hawliau tramwy cyhoeddus sy’n arwain trwy goetiroedd hynafol ac ar draws tir ffermio, tir comin a morfeydd heli, gall llwybrau amrywiol yr ardal arwain at olygfeydd hyfryd ac annisgwyl.

Lawrlwythwch y map llwybr i ddysgu rhagor am y 12 o leoliadau o ddiddordeb hanesyddol a’r bywyd gwyllt gallwch ddod o hyd iddynt ar hyd y ffordd.

Llwybr Glas

Pellter: 2.25 milltir neu 3.5km.
Amser amcangyfrifol: 50 munud.

Llwybr coch

Pellter: 1.5 milltir neu  2.5km.
Amser amcangyfrifol: 50 munud.

Llwybr oren

Pellter: 4.6 milltir neu 7.5km.
Amser amcangyfrifol: 2 awr

Sylwer: Yn gyffredinol, mae signal ffonau symudol yn dda ar hyd y llwybrau hyn, ond gall fod yn wael ar waelod dyffrynnoedd. Mae’r tywydd yn gallu newid yn gyflym, felly efallai y bydd angen dillad dwrglos ac esgidiau cadarn arnoch.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.