Traethau

Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd ar gael ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. 

Mae Abertawe'n adnabyddus am ei thraethau arobryn, gan gynnwys y traeth sydd wedi cael ei enwi'n 10fed traeth gorau'r byd - Bae Rhosili, a Phen Pyrod enwog. Gydag 20 o draethau sy'n ymestyn ar hyd 30 milltir o'r morlin, mae'n rhaid i chi fynd i'r traeth yn ystod eich amser yn Abertawe.  

Os ydych chi'n gobeithio mynd allan yn y dŵr yn ystod eich amser yn yr ardal, mae gan Fae Langland a Llangynydd rai o'r tonnau gorau i chi eu syrffio ar eich bwrdd syrffio.  

I'r rheini sy'n mwynhau ychydig o gyffro, mae Gower Adventures yn cynnig amrywiaeth lawn o weithgareddau fel dringo creigiau ym Mae'r Tri Chlogwyn, a chaiacio ym Mae Oxwich. Os yw eich bryd ar ymlacio yn y dŵr, mae Gower Coast Adventures yn cynnig cyfleoedd gwych i weld bywyd gwyllt lleol yn ystod teithiau o amgylch arfordir de Gŵyr.

I'r rheini sy'n canolbwyntio ar amser gyda'r teulu, mae gan draeth Bae Rotherslade a Bae Caswell ddigonedd o dywod i chi a'ch plant ei fwynhau, neu os ydych chi'n mynd i ochr ddeheuol traeth Bae Abertawe, mae digonedd o ardaloedd chwarae a gweithgareddau awyr agored ar gael.  

Diogelwch dŵr ar y traeth

Rydym am i chi fynd adref gydag atgofion anhygoel. I wneud yn siŵr o hynny, dyma rywfaint o wybodaeth bwysig am sut i fwynhau ein harfordir a'n hardal wledig yn ddiogel. Cymerwch amser i’w darllen, yna gallwch ymlacio, gan wybod eich bod chi, eich ffrindiau a'ch teulu'n barod i gael amser gwych!