Gwybodaeth am Hygyrchedd
Llety Hygyrch
Anogir pob llety a restrir ar y wefan hon i lanlwytho gwybodaeth am hygyrchedd ar ei dudalen. Cadwch lygad am y tab ‘Hygyrchedd’ yn y golofn ar yr ochr chwith.
Toiledau i’r anabl
Mae gan y rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus a gynhelir gan Gyngor Abertawe fynediad i’r anabl. Mae’r cyngor hefyd yn darparu cyfleusterau RADAR mewn 15 safle.
Mae cynllun allweddi RADAR yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n darparu mynediad i wasanaethau cyhoeddus o safon drwy ddefnyddio allwedd. Mae allweddi RADAR ar gael i’w prynu am £5 o wasanaeth Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe pan ddangosir papur meddyg, neu rywbeth tebyg.
Changing Places/Lleoedd Newid
Gellir dod o hyd i doiledau Changing Places/Lleoedd Newid yn y mannau canlynol:
- Cyfadeilad Hamdden yr LC (Heol Ystumllwynarth)
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (Heol Ystumllwynarth)
- Oriel Gelf Glynn Vivian(Heol Alexandra)
- The Secret Bar & Kitchen ar Bromenâd Abertawe (Heol y Mwmbwls)
- Gorsaf Drenau’r Stryd Fawr (Y Stryd Fawr)
- Gorsaf Fysus Abertawe (Stryd Plymouth)
- Canolfan Ddinesig (Heol Ystumllwynarth)
- Neuadd y Ddinas a Neuadd Brangwyn (Heol y De a’r Gogledd)
- Ysbyty Treforys
- Maes parcio Bae Caswell (Gŵyr)
Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
Mae gwasanaeth Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe yng ngorsaf fysus newydd y ddinas ac mae’n darparu cyfarpar symudedd i bobl sy’n ymweld â chanol y ddinas. Gall aelodau’r cyhoedd sydd ag anawsterau symudedd fenthyca cadeiriau olwyn arferol, cadeiriau olwyn â motor a sgwteri â motor o’r siop. Mae maes parcio â 30 o leoedd wedi’i greu yn arbennig i ddefnyddwyr y gwasanaeth hefyd fel y gallant barcio’u cerbydau ger y lleoliad newydd.
Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
Gorsaf Fysus Abertawe
Stryd Plymouth
Abertawe
SA1 3AR
Gwefan: www.abertawe.gov.uk/EiddoGwag
Traethau Hygyrch
Mae gan lawer o draethau ar Benrhyn Gŵyr fynediad da, cyfleusterau parcio i’r anabl a thoiledau hygyrch, gan gynnwys traeth Abertawe, Bae Caswell, Bae Oxwich, Bae Horton a Phorth Einon.
Gellir llogi dwy gadair olwyn traeth sy’n arnofio AM DDIM ym Mae Caswell trwy Surfability (gyda’r cyngor), archebwch yma. Ffonio 01792 635718.
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.