Llwybr Cerdded Treftadaeth Pontarddulais
Mae Llwybr Treftadaeth Pontarddulais yn eich arwain drwy dref fach Gymreig sy’n llawn straeon. Gyda dwy garreg goffa i nodi Terfysgoedd Beca, un ar bob pen y pentref, mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth am arwyr y frwydr honno, effaith y dref ar feirdd enwog fel Dylan ac Edward Thomas ac, wrth gwrs, safle Eglwys Teilo Sant o’r 7fed ganrif – a fu fyw yn yr un cyfnod â Dewi Sant ac a allai fod wedi cael ei ddewis i fod yn nawddsant Cymru. Taith gerdded gylchol drwy bentref Pontarddulais yw hon, sy’n cynnwys safle’r eglwys o’r 12fed ganrif, Llandeilo Tal-y-bont.
Crynodeb o’r Daith Gerdded
Pellter: 6 miles milltir (6.5km).
Amser: 2.5 awr.
Math o daith gerdded: Hawdd. Cylchool.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.
Gwybodaeth am ddiogelwch: Mae rhannau o’r daith gerdded yn ymyl glan afon a all fod yn llithrig ar adegau yn dilyn glaw. Mae hefyd yn llanwol a gall y tir ger y fynwent fod yn wlyb iawn weithiau.
Gwybodaeth ddefnyddiol: Cludiant cyhoeddus, maes parcio: yng ngorsaf drenau Pontarddulais ac yng nghanol y pentref o fewn pellter cerdded byr.
Amrywiaeth o gaffis a thafarndai ar hyd y llwybr sy’n darparu lluniaeth. Toiledau yng nghanol y pentref.
Manylion y daith gerdded
- Mae’r daith gerdded yn dechrau ar brif ffordd yr A48 lle mae lôn yr orsaf drenau yn cwrdd â hi, ger y bont dros afon Llwchwr.
- Cerddwch i ganol y pentref gan wyro ychydig i’r dde a byddwch yn cyrraedd tafarn y Farmers Arms.
- Trowch i’r dde yma a chadwch at y chwith ar hyd Heol Coedbach nes i chi gyrraedd y parc.
- Trowch i’r dde rhwng y caeau rygbi a phêl-droed ac i’r chwith ar hyd llwybr amlwg.
- Ar ôl mynd trwy glwyd fechan, ewch ymlaen tua 20m arall ac fe welwch glwyd fechan arall ar y chwith.
- Ar ôl i chi fynd drwyddo, dilynwch y llwybr ar hyd lan yr afon nes i chi gyrraedd Llandeilo Fach (hen ffermdy) a mynwent sy’n nodi safle eglwys Llandeilo Tal-y-bont o’r 12fed ganrif.
- Cerddwch heibio’r ffermdy a dilynwch y llwybr o dan y draffordd nes i chi ddod ar draws nant ger fferm (Castell Du).
- Bydd y ffordd fetlin yn eich arwain at Waungron ar y B4296.
- Trowch i’r chwith ac ewch yn ôl tuag at Bontarddulais.
- Ychydig ar ôl i chi groesi’r draffordd, chwiliwch am lwybr ar eich chwith a fydd yn mynd â chi yn ôl tua’r parc a’r pentref.
Uchafbwyntiau
- Mae’r llwybr yn mynd ar hyd hen safle eglwys Llandeilo Tal-y-bont o’r 12fed ganrif a gafodd ei chludo a’i hailadeiladu’n ofalus i’w harddangos yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.
- Roedd yr ysgrifennwr emynau enwog, Dafydd Williams, yn byw yn Llandeilo Fach. Ei emyn enwocaf oedd “Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau”.
- Mae’r llwybr yn mynd ar hyd prif stryd Pontarddulais lle mae nifer o siopau ac amwynderau annibynnol lleol ar gael.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk
Dolenni ychwanegol
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...
Lles
Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…
Addas i Gŵn
Does dim rhaid i'ch anifail anwes aros gartref pan fyddwch yn archwilio Bae Abertawe oherwydd…
Pethau i’w Dwneud yn yr Awyr Agored
Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Llwybrau Cerdded
Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.