Abertawe Arswydus

Hanes Hunllefaidd, Cestyll Cythryblus a Straeon am Smyglwyr

Os ydych chi’n cyffroi wrth glywed straeon am eneidiau dirgel, ysbrydion bwganllyd a chreaduriaid hudolus, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Mae mannau Abertawe a Phenrhyn Gŵyr sy’n llawn cysgodion yn fyw â hanes pethau sy’n gwneud twrw gefn nos! O farchogion rhithiol sy’n carlamu ar draethau yng ngolau’r lleuad i dylwyth teg dialgar sy’n gwneud hud a lledrith tywyll.

Anturiaethau o fri ym Mae Abertawe

Nid yw’n syndod bod tirluniau a morluniau dramatig yr ardal hon yn gartref i gynifer o straeon goruwchnaturiol. Mae’r arallfydol yn gyffredin yma. Crwydrwch drwy gromgelloedd tywyll 12fed ganrif Castell Ystumllwynarth a gallwch bron â chlywed lleisiau’r cyn preswylwyr yn adleisio o’i waliau hynafol. Mae arfordir hudol Gŵyr hefyd yn bwrw hud pwerus, gyda’i foroedd stormus a’i dywod yng nghysgod y clogwyni’n darparu’r cefndir perffaith i brofiadau goruwchnaturiol. Efallai byddwch hyd yn oed yn cwrdd ag ysbryd yn y dafarn neu’r theatr! Mae angen bach o seibiant ac adfer ar y meirw byw hefyd!

Castell Ystumllwynarth

Mae’n enw hyfryd, yn dyw? Ond y tu hwnt i’r llen mae yna stori iasoer. Ar un adeg roedd yn gartref i Arglwyddi pwerus Gŵyr, ond unig breswylydd Ystumllwynarth y dyddiau hyn yw ysbryd yr Arglwyddes Wen. Mentrwch drwy ddrysfa’r castell sy’n llawn gromgelloedd a grisiau cudd ac efallai y gwelwch chi’r preswylydd brawychus hwn. Mae straeon sy’n dyddio o’r canol oesoedd yn adrodd am fenyw mewn mantell wen sy’n wylo’n dawel, gydag anafiadau erchyll ar ei chefn. Mae postyn chwipio yn y daeargelloedd yn awgrymu sut bu farw.

Oystermouth Castle

Castell Pennard, Gŵyr

 
Ystyrir tylwyth teg fel creaduriaid mwyaf ciwt y byd goruwchnaturiol, ond gofalwch – mae ganddynt ochr dywyll. Yn ôl chwedl, gwrthododd perchennog Pennard i’r tylwyth teg lleol ddawnsio yn ei briodas, felly, gwnaethant greu storm dywod ofnadwy a achosodd i’r gaer droi’n rwbel (efallai bydd sinigiaid am amlygu’r ffaith bod y castell wedi cael ei adael ar ôl y llechfeddiant tywod). Heddiw, y gred yw bod yr adfeilion llawn awyrgylch yn Dewch i Gŵyr.

Creepy silouhette against castle at night time

Castell Abertawe

 
TEr bod y castell bellach yn fychan ymysg yr adeiladau canol ddinas modern sy’n ei amgylchynu, roedd Castell Abertawe’n gaer o bwys strategol ar un adeg. Dros y canrifoedd, mae wedi goroesi trwy warchaeoedd, gwrthryfeloedd a hyd yn oed y Blitz. Cred helwyr ysbrydion bod menyw rhyfedd sy’n gwisgo glas yn byw yn y castell. Yn ôl pob sôn, mae’r rhith yn crwydro tiroedd y castell gan ddiflannu wrth i rywun nesáu ati. Er bod nifer yn honni eu bod wedi’i gweld, nid oes unrhyw un yn ymwybodol o bwy oedd y fenyw, na pham mae ei henaid bellach yn crwydro’r castell.

photo of swansea castle with pedestrians walking past in the foreground

Bae Rhosili

 
Yn ogystal â bod yn un o draethau gorau Prydain (gofynnwch i TripAdvisor!), mae traeth prydferth Rhosili ar Benrhyn Gŵyr hefyd yn boblogaidd ar gyfer gweithgarwch goruwchnaturiol. Mae pobl wedi adrodd am weld bâr rhyfedd yn gwisgo dillad Oes Edwardaidd yn Rheithordy Rhosili sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a gellir gweld ysbryd y Parch John Lucas yn carlamu ar y tywod ar gefn ei geffyl rhithiol. Mae’r Parchedig yn rhannu’r traeth â Sgweier Mansell sydd, ar nosweithiau stormus, yn chwilio am aur sydd wedi’i gladdu wrth eistedd mewn cerbyd a dynnwyd gan bedwar ceffyl.

Photo of Rhossilli beach filming location

Theatr y Grand Abertawe

 
Cafodd ei hagor ym 1897 gan y gantores opera enwog, Dâm Adeline Patti, ac ers hynny mae’r theatr wedi croesawu nifer o enwogion i berfformio dros y blynyddoedd, gan gynnwys enwogion fel Anthony Hopkins, Richard Burton ac Ivor Novello. Ond, maent i gyd yn cael eu gwthio i’r ymylon gan y perfformiwr paranormal, Jenny, sydd wedi bod yn troedio’r llwyfan am dros 100 o flynyddoedd. Credir mai actores yw’r ddrychiolaeth mewn gwisg wen, a fu’n actio yn y Grand cyn mynd ar daith drychinebus y Titanic.

Photo of the interior of Swansea Grand Theatre

Hanes a Threftadaeth

Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel Dylan Thomas.