Teithiau Byr Diwylliannol Abertawe
Antur Ddiwylliannol yn Abertawe
- Cadwch eich lle am arhosiad dros nos yng Ngwesty Morgans, sef gwesty bwtîg moethus yng nghanol dinas Abertawe mewn adeilad rhestredig Gradd 2 a fu unwaith yn gartref i’r awdurdod porthladd.
- Ewch i Ganolfan Dylan Thomas i archwilio’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’. Byddwch yn clywed rhai o leisiau mwyaf adnabyddus y byd yn darllen llinellau o waith enwocaf Dylan Thomas; mae lleisiau’r Tywysog Charles a Richard Burton yn eu plith. Hefyd mae arddangosiadau rhyngweithiol newydd ar sgrîn gyffwrdd sy’n canolbwyntio ar dechneg Dylan, ac mae cyfle i chi edrych ar y nodiaduron a ysgrifennodd yn Abertawe rhwng 15 a 19 oed, a dysgu mwy am yr amgylchiadau ynghylch ei farwolaeth yn Ninas Efrog Newydd ym 1953.
- Mwynhewch ginio yn Lolis Mediterranean Restaurant
- Darganfyddwch Oriel Gelf Glynn Vivian. Abertawe. Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, mae Oriel Gelf Glynn Vivian (a sefydlwyd ym 1911) wedi datblygu casgliad sylweddol sy’n cynnwys sbectrwm eang o’r celfyddydau gweledol, o’r hen feistri i artistiaid cyfoes, ynghyd â chasgliad rhyngwladol o borslen a tsieni Abertawe. Mae’r rhaglen arddangosfeydd ddeinamig yn rhoi llwyfan i artistiaid yng Nghymru gyflwyno eu gwaith mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a rhyngwladol o artistiaid cyfoes pwysig yn ogystal â sioeau hanes celf.
- Dewch i Lawnt yr Amgueddfa i ddarganfod yr ymagwedd ryngweithiol ac uwch-dechnoleg at hanes Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac yna teithiwch yn ôl mewn amser i Amgueddfa Abertawe. Mewn cyferbyniad â phrofiad uwch-dechnoleg Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru.
- Mwynhewch eich pryd gyda’r hwyr yn y El Pescador
Cymerwch gip ar ein teithiau byr eraill
Taith Fer y Mwmbwls
Ymwelwch phentref cartrefol ond cosmopolitaidd y Mwmbwls. Yn llawn cymeriad lleol a swyn, mae’r Mwmbwls yn gartref i grefftau a wnaed â llaw, bwtigau moethus a hufen iâ gorau’r…
Taith Fer Oxwich
Antur Forol Oxwich: Dewch i reidio, bwyta a phadlo bwrdd ar eich traed!
Taith Fer Abertawe Wledig
Darganfyddwch Abertawe Wledig yn ystod Seibiant Byr
Antur Tri Diwrnod Hwyl Bae Abertawe
Antur Tri Diwrnod ym Mae Abertawe.
Taith Fer y Tri Chlogwyn
Antur Ddringo ym Mae’r Tri Chlogwyn