Natur a Bywyd Gwyllt
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad daearyddol yn cwmpasu’r arfordir a chefn gwlad, o fewn hanner awr gallwch fynd o nofio yn y môr gyda gwymon yn gogleisio’ch traed i sefyll ar ben mynydd gyda boncathod a barcutiaid yn mynd mewn cylch uwch eich pen.
Gwnaed Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain ym mis Mai 1956. Mae llawer ohoni’n cynnwys tir comin a thraethau sy’n darparu amgylchedd heb ei ail i fywyd gwyllt a phlanhigion ffynnu.
Mae blodau gwyllt, mwsoglau a phlanhigion prin a hardd ym mhobman, a phob math o greaduriaid mewn coedwigoedd, gwlyptiroedd a thwyni. Mae 9 gwarchodfa natur bwrpasol yn yr ardal.
Rydym wedi creu fideos a chanllawiau sy’n arddangos tair ardal lle gallwch brofi’r gorau o natur a bywyd gwyllt. Gallwch hefyd ddarllen mwy am y Côd Cefn Gwlad a’r ffyrdd gorau o fod yn gynaliadwy wrth ymweld â’r ardal.
Gwyliwch yr arbenigwr bywyd gwyllt a’r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, mewn tri fideo Saffari’r Gwanwyn sydd wedi’u creu’n arbennig –sy’n cynnwys Abertawe a’r Mwmbwls, Abertawe Wledig a Gŵyr a thri sy’n arddangos natur a bywyd gwyllt ym Mae Abertawe, gogledd Gŵyr a de Gŵyr.
Darganfod Natur a Bywyd Gwyllt
Natur a Bywyd Gwyllt ym Mae Abertawe
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael…
Natur a Bywyd Gwyllt yn Abertawe Wledig
Mae Coed Cwm Penllergaer (SA4 9GS) yn dyddio’n ôl ychydig gannoedd o…
Natur a Bywyd Gwyllt yn Abertawe a'r Mwmbwls
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael…
Natur a Bywyd Gwyllt ym Mhenrhyn Gŵyr
Gwnaed Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain dros 60 mlynedd yn…
Natur a Bywyd Gwyllt yn Ne Gŵyr
Mae Porth Einon (SA3 1NN) yn un o draethau mwyaf garw Penrhyn Gŵyr Mae’r…
Natur a Bywyd Gwyllt yng Ngogledd Gŵyr
Mae Twyni Whitford yng ngogledd Gŵyr. Oherwydd ei lleoliad, mae amrywiaeth o…
Ymweld yn gyfrifol
Er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd hyn sydd heb eu difetha’n aros felly, mae’n bwysig bod ymwelwyr yn parchu’r ardal drwy ddilyn y côd cefn gwlad, mynd â sbwriel adref a pheidio ag amharu ar fywyd gwyllt a ffawna. Rydym am i chi gadw’n ddiogel hefyd, yn enwedig ger dŵr a da byw. Darllen rhagor
Ydych chi'n cynllunio'ch taith?
Teithio Hwnt ac Yma
Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a…
Bod yn Gyfrifol
Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r…
Gweithgareddau
Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael…
Gŵyr
Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…
Natur a Bywyd Gwyllt ym Mae Abertawe
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…