Atyniadau Awyr Agored

Gallwch fwynhau’r diwrnod mas perffaith i’r teulu yn Abertawe gyda thaith i’n hatyniadau awyr agored!

Ar hyd un darn 5 milltir o Fae Abertawe, gallwch ddod o hyd i Lyn Cychod Singleton a’r cwrs golff gwallgof yn lleoliad prydferth a hamddenol Parc Singleton, parc dŵr Abertawe yn Lido Blackpill, golff gwallgof yng Ngerddi Southend y Mwmbwls a Thrên Bach Bae Abertawe sy’n teithio ar hyd y prom.

Felly os hoffech chwarae golff gwallgof, ymlacio ar y pedalos, chwarae yn y lido neu fwynhau taith ar Drên Bach y Bae, mae rhywbeth at ddant pawb ar hyd Prom Abertawe!

Trên Bach Bae Abertawe

Os hoffech deithio ar hyd Prom Abertawe mewn steil, ewch ar Drên Bach Bae Abertawe! Mae ein trên bach y bae sydd â 72 o seddi, yn teithio ar hyd Prom Abertawe rhwng Lido Blackpill a Gerddi Southend yn y Mwmbwls, a gall teithwyr fwynhau golygfeydd gwych o Fae Abertawe ar hyd y…

Gerddi Southend

Mae gerddi hardd Southend ar ochr y prom yn y Mwmbwls a gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Fae Abertawe yno. Mae Gerddi Southend hefyd yn gartref i gwrs golff gwallgof ac ardal chwarae i blant!

Ydych chi'n chwilio am ragor o hwyl i'r teulu?

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Addas i Deuluoedd

Abertawe yw'r lle perffaith i gael hwyl fel teulu, boed law neu hindda. Mae amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau anhygoel i'w harchwilio lle cynhelir arddangosfeydd drwy'r flwyddyn gron a gweithdai drwy gydol…

Atyniadau

Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r  amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf…

Hanner Tymor

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ddifyrru'r rhai bach drwy gydol y gwyliau hanner tymor? Mae Croeso Bae Abertawe yma i ddangos yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau sydd ar gael i chi ar draws canol y ddinas…