Pethau i’w gwneud yn yr awyr agored
Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae Abertawe a Gŵyr - gallwch hefyd fynd ar daith ar gwch ar hyd afon Tawe neu hwylio o amgylch yr arfordir a chadw llygad am ddolffiniaid a morloi. Paratowch bicnic ac ewch i un o'n parciau (mae 100 i ddewis ohonynt!) neu ein gwarchodfeydd natur. Mae Bae Abertawe'n lleoliad delfrydol i feicwyr oherwydd ei filltiroedd o lwybrau beicio. Gallwch fwynhau taith hamddenol ar gefn eich beic ar hyd glan y môr, neu feicio i mewn i'r cwm. Bydd plant ac arddegwyr yn mwynhau gêm o golff bach neu daith ar y pedalos ym Mharc Singleton. Mae gweithgareddau difyr cost isel ar gael i'r teulu cyfan hefyd, fel Lido Blackpill neu daith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir.
Darganfyddwch bethau i'w gwneud yn yr awyr agored
Llwybrau Cerdded
Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr…
Beicio
Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac…
Natur a Bywyd Gwyllt
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad…
Prom Abertawe
Gallwch fwynhau’r diwrnod mas perffaith i’r teulu yn Abertawe gyda thaith i’n…
Parciau a Gerddi
Parciau a Gerddi Abertawe ... Mae digonedd o barciau a gerddi yn Abertawe gyda thros 52 o ardaloedd…
Traethau
Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd…
Awyr Dywyll
Mae Cymru’n lwcus iawn o ran awyr dywyll ac mae’r rheini a welir dros Benrhyn Gŵyr yn…
Ymlacio ac adfer
Pethau i'w Gwneud
Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.