Parcio a Theithio ar gyfer Cyngherddau ym Mharc Singleton
Cyrraedd y Lleoliad
Cyrraedd mewn Car
Dilynwch arwyddion y cyngherddau i Barc Singleton, Abertawe a dilynwch arwyddion priodol meysydd parcio’r digwyddiad.
O’r M4 (Caerdydd)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 a dilynwch yr A483 i Abertawe. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ar yr A4067. Bydd Parc Singleton ar y dde tua 500m ar ôl Maes Rygbi San Helen.
O’r M4 (Caerfyrddin)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 47 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483. Gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, trowch i’r dde ar ôl gyrru tua 2.5 milltir wrth y prif oleuadau, gan ddilyn yr arwyddion am ‘Gŵyr’ (mae tafarn The Marquis Arms ar yr ochr dde). Dilynwch yr A4216 a throwch i’r dde wrth y goleuadau traffig i Vivian Road. Parhewch i ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, yna’r arwyddion ar gyfer meysydd parcio’r digwyddiad.
Meysydd parcio’r digwyddiad
Sylwer na ellir parcio dros nos mewn unrhyw faes parcio ar gyfer y digwyddiad. Mae meysydd parcio’r digwyddiadau ar gyfer deiliaid tocynnau’r digwyddiad yn unig. Rhaid talu wrth gyrraedd pob maes parcio.
Y Rec
- Gellir cael mynediad i’r Rec o Mumbles Road, Abertawe. Codir £10.00 fesul car. Arwynebedd graean yw’r maes parcio hwn. Bydd taith gerdded fer (850m) o’r maes parcio i arena’r gyngerdd. Côd post – SA2 0AU, What 3 Words https://what3words.com/boss.shops.hill
Nid oes unrhyw safleoedd parcio a theithio yn weithredol ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cyrraedd y digwyddiad mewn bws
Mae’r bysus yn mynd o ganol dinas Abertawe a lleoliadau amrywiol eraill i Barc Singleton. Mae’r safleoedd bysus ger mynedfeydd Gower Road, Sketty Lane ac Oystermouth Road i Barc Singleton.
Gwiriwch gyda’ch gweithredwr bysus am fanylion yr amserlen fysus ar ôl i’r gyngerdd ddod i ben oherwydd gall y ffyrdd sydd ar gau effeithio ar fannau casglu/gollwng y bysus.
Dylai’r rheini sy’n mynd i gyngherddau fod yn ymwybodol o amseru’r gyngerdd ac fe’u cynghorir i wirio gyda’r gweithredwr am fanylion yr amserlenni oherwydd newidiadau posib i amserlenni arferol ar ddyddiau digwyddiadau.
First Cymru: 0871 200 2233 neu www.firstgroup.com
Gweithredir y gwasanaethau bysus canlynol yn ardal Parc Singleton:
2, 2A, 2B, 2C, 3, 3A, 4, 4A, 8, 10, 20, 20A and 21A
Cyrraedd ar y trên
Yr orsaf drenau agosaf at Barc Singleton yw Gorsaf Stryd Fawr Abertawe, sydd oddeutu 2 filltir o’r parc. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf. Os byddwch yn mynd adref ar drên, cofiwch adael safle’r digwyddiad o leiaf awr cyn amser gadael eich trên i gyrraedd yr orsaf mewn da bryd. Dylai mynychwyr y cyngerdd fod yn ystyriol o amseroedd y cyngerdd a chynghorir hwy i holi’r gweithredwr www.traveline.cymru
Rhif ffôn: 03333 211 202
Tacsis
Bydd tacsis ar gael o orsaf drenau Abertawe, canol dinas Abertawe a nifer o leoliadau eraill yn yr ardal.
Ni chaniateir i dacsis gael mynediad i Barc Singleton. Os ydych yn cyrraedd mewn tacsi dylech anelu at gael eich gollwng a’ch casglu yn Bryn Road.
Mae ciwiau ar gyfer tacsis sy’n gadael y safle yn aml yn eithaf hir, ystyriwch archebu cerbyd hurio preifat ymlaen llaw i’ch casglu. Caniatewch ddigon o amser i gerdded o arena’r gyngerdd i’r briffordd pan fyddwch yn trefnu tacsi.
Llecyn Gollwng / Codi Teithwyr
Bydd y man casglu a gollwng dynodedig ar De La Beche Road. Bydd yr ardal hon wedi’i goleuo a’i stiwardio’n dda trwy gydol y digwyddiad.
Peidiwch â cheisio gollwng na chasglu yn unrhyw le ar hyd Oystermouth Road.
Wrth drefnu i gael eich casglu dylech fod yn ymwybodol o’r ffyrdd sydd ar gau yn yr ardal. Bydd manylion y ffyrdd sydd ar gau ar gael yn fuan.
Beicio
Os hoffech chi feicio i’r digwyddiad, gallwch gynllunio eich taith yn www.sustrans.co.uk
Llefydd i aros
I gael rhestr o lefydd gwych i aros, trowch at ein chwaer wefan, www.visitswanseabay.com. Archebwch le i aros gan ddefnyddio eu rhestr hwylus o westai, busnesau gwely a brecwast a rhagor. Hefyd, cofiwch chwilio’n rheolaidd am y cynigion argaeledd hwyr i gael y bargeinion munud olaf gorau.
Hygyrchedd
Cynhelir y digwyddiad ar wair; bydd stiwardiaid cyfeillgar, toiledau hygyrch ac ardal wylio i bobl anabl ar gael.
Mae’r parc yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn â chymorth.
Cerddoriaeth Fyw a Chyngherddau
Mae Abertawe'n lle sy'n dwlu ar gerddoriaeth, a ph'un a ydych yn chwilio am nosweithiau anffurfiol a chartrefol lle'r arddangosir y doniau lleol gorau, theatrau sy'n croesawu sêr rhyngwladol neu barciau lle mae rhai o'r enwau mwyaf yn perfformio, mae'r cyfan ar gael…