Llwybr Cerdded Prom Abertawe

Gan ddechrau yn Abertawe, cerddwch ar hyd promenâd enwog Bae Abertawe, safle rheilffordd cyntaf y byd i gludo teithwyr, lle ceir golygfeydd ar draws y bae i Ben y Mwmbwls. Byddwch yn mynd heibio sawl tirnod enwog fel Neuadd y Ddinas 'Art Deco', Pafiliwn Patti a dau o barciau enwocaf Abertawe, Parc Singleton a Gerddi Clun. Pan fyddwch yn y Mwmbwls, gwobrwywch eich hun gyda hufen iâ o un o'r parlyrau hufen iâ Eidalaidd cyn archwilio'r pentref. Gallwch fynd ar y bws i ddychwelyd i ganol y ddinas neu, yn ystod misoedd yr haf a gwyliau banc, gallwch fwynhau taith ar hyd y bae ar Drên Bach y Bae.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.