Ffilmio
Dros y blynyddoedd, mae Abertawe a phenrhyn Gŵyr wedi darparu lleoliadau golygfaol ar gyfer llawer o gynyrchiadau teledu a ffilm, o Two Can Play gyda Peter Sellers ym 1962 i Twin Town ym 1997 yn cynnwys Rhys Ifans, nid yw’r ddinas yn ddieithr i’r sgrîn arian.
Mae Theatr y Grand i’w gweld yn Their Finest 2016, Ysgol yr Esgob Gore yn Submarine 2010, a Hunky Dory 2011, a Gloucester Place yn Set Fire to the Stars o 2014.
Mae Doctor Who a Torchwood, o eiddo’r awdur gwych o Abertawe, Russell T Davies, wedi’u ffilmio o gwmpas y ddinas, gyda Neuadd y Ddinas a Neuadd a Brangwyn yn ffefryn gyda thwristiaid sy’n cefnogi Doctor Who. Os ydych chi wedi gwylio dramâu ar BBC, ITV, S4C neu Netflix dros y blynyddoedd diwethaf, efallai eich bod wedi sylwi ar ambell i gameo o Abertawe…
Dyma grynodeb o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd, efallai y gwelwch chi rywun enwog y tro nesaf y byddwch chi yn y dref?

Neuadd Brangwyn/Neuadd y Ddinas – SA1 4PE
Adeilad trawiadol ar y tu allan a’r tu mewn! Mae’n bosib y gwnewch chi adnabod y tu allan, wedi’i wneud o garreg Portland a chopr, neu baneli nenfwd addurnol y coridor mawreddog. Mae rhai ardaloedd sy’n llai adnabyddus a ddefnyddir ar gyfer ffilmio yn cynnwys siambr y cyngor a’r toiledau Art Deco nad ydynt ar agor i’r cyhoedd! Mae’r siambr wedi’i defnyddio mewn llawer o ddramâu, ac yn fwyaf diweddar, fe’i trowyd yn orsaf heddlu yn yr UD wedi’i gorchuddio ag eira ar gyfer y ffilm sydd eto i’w rhyddhau, Havoc, yn cynnwys Tom Hardy.

Bae Rhosili a’r Hen Reithordy – SA3 1PL
Lleoliad trawiadol gydag un o’r traethau hiraf ar benrhyn Gŵyr, fel y’i gwelwyd yn Doctor Who a Torchwood, fideo Mumford and Sons ar gyfer Lover of the Light yn cynnwys Idris Elba a nifer o hysbysebion teledu. Mae’r Hen Reithordy yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei osod i bobl ar eu gwyliau pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ffilmio!

Caffi’r Kardomah – SA1 3DH
Camwch yn ôl mewn amser, lle mae’r byrddau Formica, y paneli pren a’r lloriau finyl yn rhoi ymdeimlad o’r gorffennol i chi. Nid oes angen i ddylunwyr setiau newid llawer wrth ffilmio yn y lleoliad poblogaidd hwn a oedd yn un o hoff gyrchleoedd Dylan Thomas a gweddill criw’r Kardomah yn ôl yn y 1930au.

Cambrian Place SA1 1RG a Victoria Avenue – SA1 3UR
Mae’r ddau leoliad hyn yn rhoi blas o sut olwg oedd ar Abertawe cyn y rhyfel. Mae Cambrian Place yn rhes o dai tref â ffasâd Sioraidd ac mae Victoria Terrace yn deras brics coch hyfryd gyferbyn â’r Brangwyn.
Ffurflen ymholiadau ffilmio
Fel cam cychwynnol, llenwch ein ffurflen ymholiadau fer ac anfonwch gopi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am £5 miliwn. Mae hyn yn caniatáu i ni ddeall natur y ffilmio a dechrau'r broses o drefnu caniatâd ar gyfer y lleoliad.
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.