Traeth Bae y Tri Chlogwyn

Mae traeth Bae y Tri Chlogwyn yn brofiad mwy gwyllt. Dychmygwch draethlin drawiadol gyda thwyni tywod, morfeydd heli ac wrth gwrs, y tri chlogwyn calchfaen enwog. Mae’n rhan hon o Lwybr Arfordir Gŵyr yn arbennig o ffotogenig ac mae’n lle gwych i aros a chael picnic.

Sut i gyrraedd yno

Gellir ei gyrraedd mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 2HB).

Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir garw. Gellir cyrraedd y traeth hefyd wrth gerdded drwy Pennard Pill, a cheir lle parcio ger Canolfan Treftadaeth Gŵyr.

 

Cyfleusterau

Maes Parcio: Tua 400m i ffwrdd o Barc Gwyliau Bae y Tri Chlogwyn, neu gallwch barcio ger Canolfan Treftadaeth Gŵyr.

Toiledau: Oes – gerllaw diolch i Barc Gwyliau Bae y Tri Chlogwyn.

Lluniaeth: Nid ar y traeth, ond gerllaw yn ardaloedd Parkmill neu Pennard, yn dibynnu ar ble y dechreuoch chi’ch taith.

Cludiant cyhoeddus: Oes, peth pellter i ffwrdd (tua 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir garw.

Cŵn: Fe’u caniateir ar y traeth drwy’r flwyddyn.

Mynediad i gadeiriau olwyn: Nac oes.

Achubwyr Bywydau:

Gwyliau Pasg 23 Mawrth- 07 Ebrill

Penwythnosau a gwyliau banc yn unig 04 Mai- 19 Mai

Hanner Tymor mis Mai 25 Mai – 2 Mehefin

Penwythnosau yn unig 8 Mehefin- 23 Mehefin

Bob dydd 29 Mehefin- 1 Medi

Amserau patriolio 10am – 6pm

Dog at Three Cliffs Beach
Three Cliffs Beach

Arhoswch yn ddiogel!

Dyma un o’n traethau harddaf, ond gall natur fod yn wyllt hefyd – cadwch lygad am lanwau neu gerhyntau cryf ar bob adeg. Oherwydd hyn, rydym yn eich cynghori i beidio â nofio neu gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr ym Mae y Tri Chlogwyn.

Gwyliwch y fideo RNLI.

Archwiliwch ragor