Cerddoriaeth Fyw a Chyngherddau

Mae Abertawe'n lle sy'n dwlu ar gerddoriaeth, a ph'un a ydych yn chwilio am nosweithiau anffurfiol a chartrefol lle'r arddangosir y doniau lleol gorau, theatrau sy'n croesawu sêr rhyngwladol neu barciau lle mae rhai o'r enwau mwyaf yn perfformio, mae'r cyfan ar gael yn Abertawe, ac maent i gyd i'w gweld yn ein rhestr isod. 

Mae popeth ar gael yn Theatr y Grand Abertawe, Neuadd Brangwyn ac Arena Abertawe, o berfformiadau teyrnged penigamp i operâu a cherddorfeydd rhyngwladol. Yn y cyfamser, bydd trac sain yr haf i'w glywed yn flynyddol ym Mharc Singleton, y cefndir perffaith ar gyfer cyngherddau ar nosweithiau haf. Yn Abertawe ei hun ceir bariau, lleoliadau ar gyfer nosweithiau cartrefol a mwy, felly waeth beth yw eich hwyliau mae noswaith i'w chael ar eich cyfer chi.  

Wrthi'n trefnu'ch noson allan nesaf? Cofiwch gael cip ar ein hadran bywyd nos

Hoffech chi wrando ar ragor o gerddoriaeth?

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!