Llwybr Cerdded Tregŵyr, Y Crwys a Dyfnant

Tro hyfryd drwy bentrefi, caeau a choetir. Mae'r daith gerdded yn dechrau ac yn gorffen ym mhentref Tregŵyr, yn agos i Lwybr Arfordir Gŵyr, ac mae'n dolennu drwy'r Crwys a Dyfnant. Bydd y daith gerdded hon yn eich arwain trwy hen ardaloedd mwyngloddio sydd bellach wedi'u hadfer yn goetiroedd hyfryd, wrth ymyl cwrs golff ac ar draws caeau tonnog.

Crynodeb o'r Daith Gerdded

Pellter: 6 milltir (10km).
Amser:  Caniatewch 3-4 awr.
Dosbarthiad y daith gerdded:Cymedrol
Byddwch yn barod: Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd.
Gwybodaeth am ddiogelwch: Mae dau ddarn byr o ffordd i gerdded ar eu hyd, ac mae un ohonynt heb balmant. Mae'r daith gerdded yn dilyn ymylon caeau ac ardaloedd coediog a all fod yn anwastad ac yn lleidiog. Mae rhai rhannau serth ac o leiaf 20 camfa i'w croesi.
Gwybodaeth Ddefnyddiol: Mae tafarndai a siopau yn Nhregŵyr, y Crwys a Dyfnant.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.