Hygyrchedd

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau y gallwch ddefnyddio ei wefan yn hwylus, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018

Rydym wedi dylunio'r wefan hon gyda nodweddion sy'n ei gwneud yn haws i'w defnyddio gan bawb, gan gynnwys y rhai hynny gydag anableddau gweld, anabledd clywedol, corfforol, lleferydd, gwybyddol neu anabledd niwrolegol. Ein nod yw cyrraedd lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) 2.1. Dyma'r safon ryngwladol ar gyfer gwefannau a chynnwys hygyrch.

Mae gan AbilityNet gyngor ar addasu'ch dyfais i'w wneud yn fwy hwylus os oes gennych anabledd.

Ein nod i’r wefan yw iddi:

  • wrthod jargon a defnyddio Saesneg syml, glir;
  • bod yn hawdd ei chwilio er mwyn cael gwybodaeth am wasanaethau’r cyngor hyd yn oed os nad ydych yn gyfarwydd â strwythur y cyngor neu’r hyn rydym yn galw pethau.

Rydym yn ceisio:

  • cyflwyno gwybodaeth mewn trefn resymegol ac yn ysgrifennu’n glir ac yn syml gan ddefnyddio geiriau pob dydd a brawddegau byr;
  • cadw dyluniad ein gwe-dudalen yn syml, yn gyson a heb ddelweddau symudol.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddatrys y materion a nodir uchod. Rydym yn cadw golwg manwl ar ein gwefan yn barhaus i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheolau hygyrchedd. Gwella ein gwefan yw rhan o waith beunyddiol y Tîm We.

  • Mae staff priodol wedi cael hyfforddiant hygyrchedd ac maent yn gweithio o fewn ein meysydd gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth o'r angen i fodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
  • Mae gennym reoliadau yn eu lle i sicrhau bod yr holl gynnwys newydd a gyhoeddir ar y wefan yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd.
  • Rydym yn rhedeg gwiriad hygyrchedd awtomatig ledled y wefan bob yn bum diwrnod ac yn cydweithio â staff meysydd gwasanaeth i ddwyn unrhyw broblemau i drefn.

Adborth:

Mae ein gwefan yn datblygu trwy’r amser.  Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw sylwadau am y wefan– da neu wael – neu unrhyw awgrymiadau am sut gallwn ni ei gwella.

My Web, My Way

Gwefan gan y BBC yw hon gyda’r nod o roi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i gynulleidfa’r we i’w galluogi i fanteisio i’r eithaf ar y we fyd-eang, beth bynnag yw eu gallu neu eu hanabledd.

Mae’r wefan yn rhoi cyngor a help i’r holl bobl a fyddai’n elwa ar wneud newidiadau i’w porwyr, eu systemau gweithredu neu eu cyfrifiaduron er mwyn gallu gweld y we yn y ffordd fwyaf hygyrch posib.

Nid yw’r wefan ar gyfer y rhai ag anableddau (namau gweledol, clyw, motor, gwybyddol neu ddysgu) yn unig ond hefyd, er enghraifft, mae ar gyfer pobl â mân namau ar eu golwg na fyddent yn ystyried bod ganddynt anabledd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i My Web My Way