Traeth Bae Langland

Mae traeth Bae Langland yn addas i deuluoedd ac mae’n cynnig amrywiaeth da o gyfleusterau. Mae wedi ennill gwobr y Faner Las a’r Wobr Glan Môr a gall fforwyr fwynhau llwybr yr arfordir ar hyd y clogwyni i Fae Caswell.

Sut i gyrraedd yno

Gellir cyrraedd yno mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 4SQ).

Gall y pellter rhwng y maes a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cyfleusterau

Maes Parcio: Tua 100m o’r traeth, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, gweler manylion a ffïoedd yma.

Toiledau: Toiled hygyrch a chawod awyr agored.

Lluniaeth: Mae sawl man gwerthu bwyd yn y pentref – cymerwch gip ar ein tudalennau lleoedd i fwyta.

Cludiant cyhoeddus: Oes, tua 400m o’r traeth. Mae peth pellter rhwng y safle bws a’r traeth a gall gynnwys tir anodd neu arw.

Cŵn: Mae cŵn yn cael eu gwahardd rhwng 1 Mai a 30 Medi.

Mynediad i gadeiriau olwyn: Oes.

Achubwyr Bywydau:
Rhwng mis Mai a mis Medi. Bydd dyddiadau 2025 ar gael yn y gwanwyn.

Mae Langland yn draeth dim smygu gwirfoddol.

A photograph of the huts at Langland Bay Beach

Arhoswch yn ddiogel!

Mae Langland yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr ac mae’n boblogaidd ymhlith syrffwyr a phobl sy’n padlfyrddio. Mae achubwr bywydau’n gofalu am y traeth dros yr haf ond dylid bod yn ofalus.

Archwiliwch ragor