Bwytai
Amser bwyta? P'un a ydych yn chwilio am rywle i gael byrbryd cyflym neu i fwynhau pryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau, mae rhywbeth i bawb ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.
Mae rhywbeth at ddant pawb, gyda nifer o fwytai annibynnol a chadwyn ar gael sy'n gweini seigiau o bedwar ban byd. Ond os ydych yn chwilio am rywbeth mwy unigryw ar gyfer eich ymweliad, mae nifer o fwytai hefyd yn manteisio ar ein lleoliad arfordirol ac yn gweini cynnyrch lleol rhagorol a physgod ffres fel y gallwch gael blas go iawn ar Abertawe a Chymru.
Cymerwch gip ar y rhestr isod, mae rhywbeth at ddant pawb - o fwytai sy'n addas i deuluoedd, lleoliadau ar gyfer eich cyfarfod nesaf neu hyd yn oed rhywbeth ar gyfer yr achlysuron arbennig hynny - a chyda The Beach House ym mae Oxwich, mae gennym fwytai Seren Michelin hefyd.
Dan sylw yr wythnos hon
- Mumbles Road
The Secret Beach Bar & Kitchen
Mae The Secret Beach Bar & Kitchen ar lan y môr yn Abertawe ac mae’n cynnig…
- Brynfield Road
Langland's Brasserie
Eich bwyty ger y môr. Mae Langland's Brasserie, sydd wedi'i leoli ar Fae Langland ger…
Britannia Inn
Dyma dafarn atyniadol sy'n rhan ganolog o bentref pleserus Llanmadog ar gopa gogledd-orllewin…
- Beach House Restaurant
Beach House, Oxwich Bay
Mae Beach House ar y tywod, dafliad carreg o’r dŵr, yn teimlo fel pe bai wedi ei olchi…
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.
Gan eich bod chi yma...
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Pethau i'w Gwneud
Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…