Pethau i'w gwneud

Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!  
 
Mae bob amser rywbeth i'w wneud ym Mae Abertawe a Gŵyr, yn yr awyr agored a dan do, boed law neu hindda. P'un a ydych am gael diwrnod mas gyda'r teulu ar un o'n traethau arobryn, mynd i heicio ac arsylwi ar fyd natur ar hyd llwybr yr arfordir, cael gwers syrffio, ymweld â chastell (mae gennym 6 ohonyn nhw!), mynd ar drên bach y bae neu drefnu noson ramantus yn y marina, mae gweithgareddau a digwyddiadau sy'n addas i bob oedran a chyllideb. 
Mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'w gwneud ym Mae Abertawe felly fyddwch chi byth yn brin o syniadau! 

Archwiliwch bethau i'w gwneud yn Abertawe

Ydych chi'n chwilio am ragor?

Bywyd Nos

Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n…

Hanes a Threftadaeth

Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel…

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhosili

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am fwy na 26 milltir o arfordir poblogaidd penrhyn Gŵyr. Mae hyn yn cynnwys rhan helaeth o’r ardal o amgylch Rhosili, y traeth arobryn, Pen Pyrod a Mynydd Rhosili.