Dewch i Fae Abertawe yn Gyfrifol

Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r ardal. Darllenwch ymlaen i gael gwybod am sut i ymweld yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn gynaliadwy.

Lle sy’n cael ei rannu

Mae’r ffyrdd o gwmpas Gŵyr yn gartref i fywyd gwyllt a da byw – cofiwch hyn pan fyddwch yn gyrru, caewch gatiau ar eich ôl a chadwch gŵn ar dennyn wrth groesi tir ffermio. Darllenwch y Côd Cerdded Cŵn.

Tir a môr

Does dim byd fel trochfa yn y môr, ond gall llanwau cyflym a cherhyntau terfol beryglu pobl yn annisgwyl.Ewch i’n tudalen Chwarae’n Ddiogel i gael gwybod pa draethau sy’n cael eu goruchwylio gan achubwyr bywydau, sut i wirio amserau’r llanw a chael rhagor o gyngor ar ddiogelwch yn y dŵr.

Mae’r llwybrau a’r golygfeydd sydd ar gynnig yma’n wych i gerddwyr ond gall y rheini sy’n anghyfarwydd â’r dirwedd wledig ei chael hi’n anodd dod o hyd i’w ffordd. Darllenwch am gerdded ger da byw yma a gallwch gael cyngor ar gerdded yn ddiogel o ran llwybr yr arfordir a llanwau yma.

Yr amgylchedd

Mae Bae Abertawe a Gŵyr wedi’u cydnabod am eu harddwch naturiol eithriadol. Pan fyddwch yn ymweld, gwnewch yn siŵr eich bod yn trin yr amgylchedd â pharch drwy beidio â tharfu ar y bywyd gwyllt a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi. Darllenwch am y protocol barbeciws tafladwy yma.

Os ydych yn awyddus i adael y car gartref, gwasanahttps://www.abertawe.gov.uk/bbqbeachethir Bae Abertawe gan fysus ac mae ganddo ystod dda o lwybrau beicio.

Sut i fwynhau ein harfordir a'n cefn gwlad yn ddiogel

Rydym am i chi fynd yn ôl adref gydag atgofion anhygoel. I sicrhau hynny, rydym wedi cynnwys gwybodaeth bwysig yma ac ar ein tudalen ‘Dewch i Fae Abertawe. Yn gyfrifol’ am sut i fwynhau ein harfordir a’n cefn gwlad yn ddiogel. Cymerwch amser i’w darllen, yna gallwch ymlacio, gan wybod eich bod chi, eich ffrindiau a’ch teulu’n barod i gael amser gwych!

Rhan o swyn Bae Abertawe yw’r ffaith ei fod yn rhyfeddol o wyllt, felly mae’n bwysig eich bod yn cymryd gofal pan fyddwch yn mynd hwnt ac yma. Darllenwch ymlaen i ddod o hyd i gyngor ar ddiogelwch wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd, diogelwch ar y traeth, BBQs, cyngor gan yr RLNI a cherdded yn ddiogel.

Ydych chi'n cymryd rhan mewn gweithgaredd ar y môr neu ar y tir?

  • Beth bynnag y byddwch yn ei wneud a ble bynnag y byddwch yn ei wneud, sicrhewch fod yr amodau'n ddiogel a bod gennych y cyfarpar cywir. Os ydych yn newydd i'r gweithgaredd neu'n amhrofiadol, defnyddiwch weithredwr achrededig (lle y bo'n briodol, mae'r holl weithredwyr yn y llyfryn hwn wedi cyflawni'r achrediad gweithgareddau priodol).
  • Byddwch yn ofalus wrth gerdded: mae llawer o'n traethau a rhannau o'n harfordir yn gartref i fywyd morol fel pysgod bwyell sy'n gallu'ch pigo pan fyddwch yn sefyll arnynt, yn ogystal â rhannau caregog y gallwch dorri eich hun arnynt. Awgrymwn eich bod yn defnyddio esgidiau dŵr, yn enwedig gyda phobl iau a cheisiwch gadw llygad ar ble'r ydych yn troedio.
  • Os ydych yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ar y môr neu ger y draethlin, yna cadwch lygad ar y llanw – gall y llanw droi'n gyflym yma gan achosi ymchwydd llanw neu lanw terfol; yn enwedig ym Mae y Tri Chlogwyn, Burry Holms a Sarn Pen Pyrod. Gall Ganolfan Gwylio Arfordir Pen Pyrod, Rhosili eich helpu i gynllunio'ch taith gerdded yn ddiogel.
  • Os ydych yn syrffio yn Llangynydd, gwyliwch rhag llongddrylliadau pan fo'r llanw'n isel.
  • Argymhellir eich bod yn cadw llygad ar eich plant drwy'r amser a nofio ar draeth lle ceir achubwr bywydau - mae rhagor o wybodaeth am draethau lle ceir achubwyr bywydau'r RNLI i'w chael isod. Os ydych chi'n gweld rhywun mewn trafferthion, peidiwch â cheisio mynd i mewn i'r dŵr, ffoniwch 999 a gofynnwch am wyliwr y glannau.
  • A chofiwch eich eli haul!

 

A photo or worms head taken from the air over the sea

Diogelwch dŵr ar y traeth

Rhwng mis Mai a mis Medi. Bydd dyddiadau 2025 ar gael yn y gwanwyn.

Am ragor o wybodaeth am achubwyr bywyd a phatrolau’r RNLI, ewch i wefan yr RNLI

RNLI lifeguards surfboard and live preservers on the beach

Cyngor yr RNLI i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel

Mae’n wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau’r awyr iach unwaith eto – ac mae’r awyr iach mor llesol ag erioed ar ein baeau a’n traethau ysblennydd. Ond wrth i fwy o bobl fwynhau ein harfordir hardd rydym am sicrhau bod dim byd yn difetha eu hwyl.

Cyn i chi fynd i’r traeth neu blymio i’r môr unwaith eto, cymerwch gip ar y canllaw defnyddiol hwn a luniwyd gan yr RNLI a Gwylwyr y Glannau EM – gallai achub bywydau. Bydd yn eich helpu i ddeall baneri ac arwyddion y traeth, cerhyntau terfol a’r llanw, ac yn nodi peryglon megis defnyddio offer chwyddadwy yn y môr.

 

promitional image from the RNLI advocating beach safety

Lle sy'n cael ei rannu

Mae ardal Gŵyr ac Abertawe wledig yn gartref i fywyd gwyllt a da byw - cofiwch hyn pan fyddwch yn gyrru, caewch gatiau ar eich ôl pan fyddwch yn cerdded a chadwch gŵn ar dennyn wrth groesi tir ffermio. Yn ystod y gwanwyn bydd llawer o geffylau, defaid a buchod yn feichiog, mae’n bwysig rhoi lle iddynt a chadw draw oddi wrth eu hebolion, eu hŵyn a'u lloi. Gall ein presenoldeb beri gofid ac arwain at ganlyniadau trasig. Cofiwch gadw cŵn ar dennyn a darllenwch y Côd Cerdded Cŵn a cherdded yn agos i dda byw yma. Mae gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog ar waith ar draethau Gŵyr i sicrhau diogelwch y boblogaeth morloi; mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma.

 

Sleep crossing a road in Gower

Cerdded yn ddiogel ym Mae Abertawe

• Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn agos at ymyl y clogwyn mewn nifer o fannau. Er eich diogelwch eich hun – cadwch at y llwybr!

• Mae rhai mannau o Lwybr yr Arfordir yn destun llanwau uchel. Byddwch yn ofalus, mae’r llanw yn gallu newid yn gyflym iawn yma. Ar adegau eithafol, efallai bydd angen i chi aros nes bod y llanw’n mynd ar drai cyn parhau, neu efallai byddwch yn gallu defnyddio llwybr amgen. Peidiwch â cheisio nofio gan efallai y byddwch chi’n mynd i drafferthion.

• Mae rhai o’r llwybrau’n dilyn y ffordd am bellterau byr, ac yn aml does dim palmant ar gael. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio’r adrannau hyn gan efallai na fydd y gyrwyr yn ymwybodol o’ch presenoldeb.

• Gwisgwch esgidiau a dillad addas bob tro ar gyfer yr amodau y byddech yn eu disgwyl ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.

• Os ydych chi mewn trafferth, ffoniwch 999 (112 ar ffôn symudol) a gofynnwch am wylwyr y glannau.

• Dilynwch y Côd Cefn Gwlad ar bob adeg: cadwch eich ci ar dennyn ger da byw. Gadewch glwydi fel yr oeddent pan ddaethoch ar eu traws, ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi

 

two walkers making their way along a coastal path on the gower

Barbeciwiau ar y traeth – Byddwch yn ddiogel

Mae’r haul yn gwenu, felly does dim byd gwella na diwrnod ar y traeth. Os ydych chi’n bwriadu cael barbeciw i’w fwynhau pan fydd yr haul yn dechrau machlud, dyma ychydig o bethau i’w cofio:

  • Sicrhewch fod eich barbeciw mewn lle diogel ar fan cadarn (nid ar y llawr gan fod y tywod yn mynd yn BOETH IAWN ac yn cadw’r gwres). Sicrhewch fod pawb yn yr ardal yn ymwybodol bod y barbeciw wedi’i gynnau ac yn BOETH
  • Pan fyddwch chi wedi gorffen, gwlychwch y barbeciw â dŵr oer a sicrhewch eich bod yn cael gwared arno’n ddiogel mewn un o’r BINIAU BARBECIW a ddarperir ym:
  • Mae Abertawe (ger Bar ‘The Secret’ ger y traeth ar y Promenâd)
  • Bae Rotherslade
  • Bae Langland
  • Bae Caswell

 

A smiling face on the beach made from shells, rocks and driftwood

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.