Llwybr Cerdded Cwmcerdinen

Dewch i fwynhau tirweddau gwledig mwyaf dilychwin Abertawe. Mae’r gylchdaith dair milltir a hanner hon, gyda’i golygfeydd ysblennydd tua Gŵyr a Bannau Brycheiniog, yn un o dirweddau gwledig mwyaf naturiol Abertawe. Mae’r llwybr yn mynd trwy olion archaeolegol a’r enghraifft orau o rostir sych yr ucheldir sydd ar ôl yn ardal Abertawe – fe’i dynodir fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Graig Fawr.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Pellter: 3.5 milltir (5.6km).
Amser: 4 awr 10 muned.
Math o daith gerdded: Hawdd.
Byddwch yn barod: Argymhellir esgidiau cerdded cadarn a dillad dwrglos.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.