Natur a Bywyd Gwyllt yng Ngogledd Gŵyr

Whiteford a Chwm Iorwg

Mae Twyni Whitford yng ngogledd Gŵyr. Oherwydd ei lleoliad, mae amrywiaeth o blanhigion blodeuol yn ffynnu yno fel tegeirian-y-gors, tegeirian y fign galchog ac eiddilwellt cynnar. Mae cynefin y twyn yn gartref i bïod y môr, hwyaid llostfain a chwtiaid aur, a choedwig pinwydd drawiadol. Coedwig ynn hynafol yw Cwm Iorwg (SA3 1DE) sy’n agor i’r gors. Gellir gweld boncyffion coed marw yn sefyll lle mae’r dŵr halen wedi symud ymhellach i’r tir. Mae 2 guddfan adar yn yr ardal lle gallwch weld crëyr glas, gleision y dorlan, adar hirgoes a dyfrgwn.

Whiteford Point Lighthouse

Ydych chi'n cynllunio'ch taith?

Gŵyr

Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…

Beicio

Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac…

Archwiliwch ragor

Natur a Bywyd Gwyllt

Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad daearyddol yn cwmpasu’r arfordir a chefn gwlad, o fewn hanner awr gallwch fynd o nofio yn y môr gyda gwymon yn gogleisio’ch traed i sefyll ar ben mynydd gyda boncathod a barcutiaid…