Llwybr Cerdded rhwng Langland a Bae Caswell

Llwybr hygyrch yn bennaf gyda golygfeydd dros Fôr Hafren i ogledd Dyfnaint a thu hwnt.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Pellter: 2 milltir (3.2 km).
Amser: 1-2 awr.
Math o daith gerdded: Hawdd. Cylch.
Byddwch yn barod: Llwybrau’r arfordir, rhes o risiau. Mae’r wyneb yn amrywio o fod yn galed a chadarn i fod yn llyfn ac anesmwyth.
Diogelwch: Mae’r llwybr yn croesi cwrs golff – cadwch lygad am beli golff yn yr awyr! Mae’r llwybr hwn hefyd yn cynnwys grisiau. Mae amrywiaeth eang o luniaeth a phrydau ar gael yng Ngwesty Bae Oxwich a siop y pentref. Mae toiledau gyferbyn â’r gwesty.

Drone shot of the Langland to Caswell coast path.

Uchafbwyntiau

  • Er bod y rhan hwn o arfordir Gŵyr yn eithaf agos at bentref prysur y Mwmbwls, mae’r bywyd gwyllt sydd ar gael yma’n gyffredin ar draws ardal gyfan Gŵyr. Cadwch lygad am y frân goesgoch brin yn yr awyr – dim ond 3 neu 4 pâr ohonynt sy’n byw yn ardal Gŵyr. Mae ei chân unigryw a’i phig a’i choesau cochion yn ei  gwahaniaethu o’r frân gyffredin sy’n debyg iddi.
  • Mae adar cymharol brin eraill yn cynnwys yr hebog tramor a’r gigfran, ac efallai y byddwch yn gweld (neu’n clywed) cnocell werdd, ehedydd, boncath, nico bach, coch y berllan a chlochdar y cerrig.
  • Gellir gweld morloi llwyd yn aml wrth iddynt ddod i’r wyneb ar y môr. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld llamhidyddion, sy’n fwy prin, neu hyd yn oed heulforgi.
  • Ar y lan, efallai y dewch chi ar draws nadroedd defaid, madfallod a gwiberod yn torheulo yn yr haul, ond er eu bod yn gyffredin, maent yn greaduriaid swil ac fel arfer maent yn anodd eu gweld.
  • Yn ogystal â’r eithin a’r grug toreithiog, gellir gweld blodau mwy prin ewinor melyn ym mis Ebrill.
  • Edrychwch ar y clogwyni rhwng Caswell a Langland hefyd i weld a allwch weld unrhyw ffurfiannau yn y creigiau. Mae’r ffurfiannau creigiau yn yr ardal hon yn bwysig yn ddaearegol ac fe’i nodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.