Arena Abertawe

Y Brangwyn

Theatr a Chelfyddydau Perfformio

Ym Mae Abertawe, mae pob noson yn gyfle i weld sioe wahanol yn rhai o leoliadau gorau'r wlad.  

Mae Theatr y Grand Abertawe wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd ers dros 120 o flynyddoedd, gyda chynyrchiadau o'r West End a sioeau annibynnol ac mae'n gartref i'n pantomeimiau Nadolig - mae'n gyrchfan y dylai unrhyw un sy'n ymweld â'r ardal fynd iddo. 

Mae rhai o enwau a sioeau mwyaf y diwydiant adloniant, o gerddoriaeth i gomedi i theatr, yn ymddangos yn rheolaidd yn Arena Abertawe. Mae gennym Neuadd Brangwyn hefyd, lleoliad trawiadol lle gallwch edmygu paneli enwog Brangwyn.  

Theatr Dylan Thomas, sydd wedi'i henwi ar ôl ein bardd enwocaf, yw'r unig theatr yn Abertawe sydd ger y glannau ac mae'n adnabyddus am ddenu enwau mawr i'w llwyfan. Mae'r theatr hon hefyd yn gartref i Swansea Little Theatre, sy'n aml yn cyflwyno perfformiadau gan y gymuned.  

Nid Swansea Little Theatre yw'r unig theatr gymunedol yn Abertawe. Mae sawl theatr annibynnol ledled y ddinas gan gynnwys Theatr Volcano, Oriel Gelf Elysium a Chanolfan Celfyddydau Taliesin, y maent oll yn llwyfannu perfformiadau newydd, gwahanol i'ch difyrru drwy gydol y nos.  

 

Digwyddiadau dros y penwythnos

Jun 11 - Jun 27
Jun 11 - Jan 31
Jun 11

Cofio Menywod y Cocos Arddangosfeydd

Jun 11 - Dec 31

Fictoriaid Dieflig

Jun 11 - Aug 31

Hanes Naturiol Iawn Arddangosfeydd

Jun 11 - Jan 31

Mwynhewch eich noson

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!