Taith Fer Oxwich

Antur Forol Oxwich: Dewch i reidio, bwyta a phadlo bwrdd ar eich traed!

(arhosiad 1 noson)

 

  • Gallwch reidio dros y môr pefriog ar daith gyda Gower Coast Adventures o Fae Oxwich i Ben Pyrod. Gallwch weld tir sydd wedi’i lunio gan y môr a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddo ac yn dibynnu arno.
  • Dewch i flasu cinio bwyd y môr yn y Beach House, Oxwich. Wedi’i osod mewn lleoliad arfordirol hardd ym Mae Oxwich, mae’r Beach House yn defnyddio cynnyrch lleol gwych, gan gynnwys gwymon Bae Oxwich.
  • Rhowch gynnig ar sefyll ar y môr gyda gwers padlo bwrdd ar eich traed (SUP) gan Chwaraeon Dŵr Oxwich, ym Mae Oxwich. Cofiwch ddod â’ch hen drenyrs, dillad cynnes a thywel ar gyfer ar ôl eich sesiwn.
  • Ewch am dro ym Mae Oxwich. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am lwybr cerdded Trwyn Oxwich. Mae’r daith fyrrach yn 3¼ milltir (5km) o hyd ac mae’r daith hirach drwy Faes Oxwich tua 4½ milltir (7km) o hyd.
  • Dewch i ymweld â Chastell Oxwich, tŷ Tuduraidd crand wedi’i adeiladu ar ffurf iard sydd wedi goruchwylio pentref Oxwich ers cyfnod y Tuduriaid.

Cymerwch gip ar ein teithiau byr eraill

Taith Fer y Mwmbwls

Ymwelwch phentref cartrefol ond cosmopolitaidd y Mwmbwls. Yn llawn cymeriad lleol a swyn, mae’r Mwmbwls yn gartref i grefftau a wnaed â llaw, bwtigau moethus a hufen iâ gorau’r…