Glynhir

Mae Llwybr Cerdded Glynhir yn mynd trwy’r dref a chefn gwlad. Gallwch fwynhau archwilio pentref Pontarddulais a golygfeydd gwych o ben y bryn.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Pellter: Tua 4 milltir (6km).
Amser: 2.5 awr.
Math o daith gerdded: Hawdd. Crwn.
Byddwch yn barod: Mae rhannau o’r llwybr ar hyd lan yr afon, a gall fod yn fwdlyd ac yn llithrig yno.

A rural Welsh landscape with the sea in the distance and a low sun in the sky.

Manylion y daith gerdded

  1. Dechreuwch lle mae lôn yr orsaf drenau’n cwrdd â’r A48 (ger pont yr afon).
  2. Ewch heibio’r orsaf betrol yna trowch i’r chwith a cherddwch ymlaen nes byddwch yn gweld yr orsaf dân.
  3. Trowch i’r chwith wrth y  groesffordd hon ar hyd Tynybonau Road am oddeutu 08.km ac ar ôl i chi fynd heibio ystad ddiwydiannol, trowch i’r dde i fyny lôn a fydd yn mynd â chi trwy iard Fferm Tynybonau.
  4. Pan fyddwch yn cyrraedd cyffordd, trowch i’r dde ac ar ôl tua 0.5km byddwch yn cyrraedd croesffordd Glynhir, trowch i’r chwith ar hyd Garnswllt Road ac yn syth ar ôl bont gefn crwm dilynwch y llwybr ar y chwith ar hyd afon Camffrwd.
  5. Byddwch yn cyrraedd pont, peidiwch â’i chroesi ond cerddwch ymlaen am 125m ychwanegol cyn troi i’r dde yn sydyn i gyrraedd Garnswllt Road yn y pendraw.
  6. Trowch i’r dde ar hyd y ffordd fetlin a heibio capel bach, ewch i fyny’r allt am oddeutu 70m cyn troi hanner ffordd i’r dde i ddilyn nant fach (Heol Ddŵr). Bydd y llwybr hwn yn cyrraedd llwybr garw ar droad sydyn felly cerddwch ymlaen i fyny’r allt i Graig Fawr ar gyfer golygfeydd hyfryd (mae hwn yn rhan o lwybr cerdded Illtyd Sant).
  7. Wrth droi i’r dde byddwch yn cyrraedd ffordd fetlin yn y pen draw.
  8. Ewch i lawr yr allt am bron i 1km yna dilynwch y brif ffordd heibio’r Ysgol Gyfun.
  9. Ar ôl i chi groesi pont yr afon, dilynwch yr ail droad i’r chwith a fydd yn eich arwain yn ôl i ganol y pentref ac yn ôl i’r orsaf drenau.

Uchafbwyntiau

  • Mae olion tai platfform a siambr gladdu o’r oes efydd ar Graig Fawr yn ogystal ag olion Llandremor Uchaf lle bu’r Methodistiaid yn cyfarfod yn ddirgel ym 1740.
  • Mae’r llwybr yn mynd trwy brif stryd Pontarddulais sydd â nifer o siopau ac amwynderau annibynnol lleol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.