Hanes a Threftadaeth

Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel Dylan Thomas.  

Isod, gallwch ddarganfod rhai o'n pobl a'n lleoedd enwog, gan gynnwys cynllun Placiau Glas Abertawe a rhai o'r cestyll gwych sydd o gwmpas yr ardal.  

Gallwch hefyd ddarganfod rhagor am ein hanes yn ein lleoliadau ardderchog, gan gynnwys Amgueddfa Abertawe ac Arddangosfa Dylan Thomas, a gallwch ddarganfod mwy am yr ardal trwy brofiadau a lleoliadau fel teithiau tywys Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, Distyllfa Gwaith Copr Abertawe Penderyn, teithiau afon Cwch Cymunedol Abertawe, Copper Jack, a mwy.  

Placiau Glas Abertawe

Os ydych yn ceisio darganfod rhagor am rai o bobl enwocaf Abertawe, cadwch lygad am Blaciau Glas Abertawe y tro nesaf rydych yn archwilio'r ddinas.  

Pobl a Lleoedd

O ddiwydiant trwm i gelfyddyd wych, mae’n anodd categoreiddio stori Bae Abertawe’n hawdd. Dilynwch linell o’r gorffennol pell i’r presennol, a byddwch yn dod o hyd i straeon brenhinoedd chwedlonol, sêr opera…

Abertawe Arswydus

Os ydych chi’n cyffroi wrth glywed straeon am eneidiau dirgel, ysbrydion bwganllyd a chreaduriaid hudolus, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. 

Straeon Môr-ladrata a Smyglo

Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif – anterth smyglo – roedd Gŵyr, a oedd yn ymddangos yn gysglyd, yn fagwrfa smyglwyr. Roedd pwysigion lleol yn gweithredu bron heb gosb, yn cyflogi cannoedd o bobl ac yn llawer mwy medrus…

Dylan Thomas

Ganed Dylan Thomas (1914-1953), llenor mwyaf enwog Cymru, yn Abertawe a bu'n byw yno'n barhaol nes ei fod yn ugain oed.