Wyddech chi fod Pafiliwn Patti yn arfer bod yn ardd aeaf yng Nghastell Craig y Nos yng Nghwm Tawe? 

Fe’i rhoddwyd i Abertawe yn dilyn marwolaeth Adelina Patti, a oedd yn dwlu ar yr ardal ac yr oedd y castell yn gartref iddi. 

Adelina Patti (1843 – 1919) 

Ganed Adela Juana Maria ar 10 Chwefror 1843 ym Madrid, yn blentyn ieuengaf y cantorion opera Caterina a Salvatore Patti. 

Symudodd y teulu i UDA ym 1846 pan oedd Adelina yn dair blwydd oed. 

Treuliodd 63 o flynyddoedd yn cyffroi’r byd cerddoriaeth, gan roi ei pherfformiad cyhoeddus cyntaf pan oedd yn 8 oed a’i pherfformiad olaf pan oedd yn 71 mlwydd oed! 

Ar anterth ei gyrfa roedd hi’n gallu gofyn am fwy na $5,000 am berfformiad yn ogystal â chanran o’r arian a wnaed. 

Roedd rhai o’i chefnogwyr enwocaf yn cynnwys y Frenhines Victoria, Charles Dickens, Napoleon II, Tywysog Cymru, Tolstoy, Rossini a George Bernard Shaw. 

Uchafbwyntiau ei gyrfa 

Ei chyngerdd gyntaf yn Neuadd Tripler yn Efrog Newydd ar 22 Tachwedd 1851 

Ei pherfformiad opera cyntaf ar 24 Tachwedd 1859 yn chwarae’r brif ran sef ‘Lucia’ 

Ei pherfformiad cyntaf yn Neuadd Frenhinol Albert ar 11 Mehefin 1892 

Ei pherfformiad opera cyhoeddus olaf ar 22 Chwefror 1900 fel Juliette yn opera Gounad 

Hysbysebu sebon Pears, losin ar gyfer y gwddf a sigarau ‘Flor de Adelina Patti’! 

Recordio’i llais am y tro cyntaf ym 1905 

Ei chyngerdd broffesiynol gyntaf yn Neuadd Frenhinol Albert ar 1 Rhagfyr 1906 

Ei hymddangosiad cyhoeddus olaf ar 24 Hydref 1914 mewn cyngerdd elusennol ar gyfer y rhyfel 

Ei bywyd personol 

Cynhaliwyd ei phriodas gyntaf â Marquis de Caux (a oedd yn 17 o flynyddoedd yn hŷn na hi) ar 29 Gorffennaf 1868. Roedd yntau’n dioddef o broblemau gyda’r ysgyfaint ac er ei bod hi’n gofalu amdano yn ystod ei salwch, datblygodd pellter rhyngddynt a daeth Patti o hyd i gysur ym mreichiau ei chydweithiwr Ernest Nicolini. 

Roedd sïon am eu perthynas wedi dinistrio enw da a bywyd cymdeithasol Adelina, ond ychydig iawn o effaith gafodd hyn ar ei gyrfa, ac os rhywbeth, cynyddodd gwerthiant tocynnau ar gyfer ei chyngherddau’n aruthrol! Llwyddodd i gael ysgariad o’r diwedd ym 1885. Yn y cyfamser, roedd Patti wedi prynu Craig y Nos ym 1878. Talodd £3,500 am yr adeilad gwreiddiol ac 17 erw, ond prynodd gwerth £10,000 o’r tir o’i amgylch yn fuan wedi hynny. Priododd â Nicolini yn Ystradgynlais ar 10 Mehefin 1886. Ond roedd e’n dioddef o broblemau gyda’i afu a’i arennau, ac roedd Adelina wrth ei ochr pan fu farw yn Pau, Ffrainc ar 18 Ionawr 1898. 

Erbyn mis Tachwedd yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd Adelina y byddai’n priodi’r Barwn Swedaidd, Rolf Cederström. Cynhaliwyd y briodas yn Eglwys Gatholig Rufeinig St Michael, Aberhonddu ym mis Ionawr 199. Roedd Adelina’n 56 oed a’r Barwn yn 28 oed! Yn dilyn y briodas, cafwyd nifer o newidiadau ym mywyd preifat a chyhoeddus Adelina. Cyfyngodd ei pherfformiadau a daeth y partïon enwog yng Nghraig y Nos i ben. Roedd y Barwn wedi lleihau nifer y staff yng Nghraig y Nos ac wedi gwahanu’i wraig oddi wrth llawer o’i ffrindiau agosaf. 

Lluniodd Adelina ei hewyllys derfynol ym 1917, gan adael bron i bopeth i’w gŵr – gan gynnwys Craig y Nos Roedd ganddi broblemau â’r galon, a bu farw ar 27 Medi 1919. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Pére Lachaise ym Mharis. 

 Y Cysylltiad Cymreig 

Craig y Nos oedd hafan Adelina a gwariodd llawer o arian ar welliannau cartref. Ychwanegodd adain ar gyfer y gweision a thŵr cloc, llenwyd yr afon â physgod a gosodwyd peiriant goleuadau trydan ar y tir – yn ôl y sôn, Craig y Nos oedd y breswylfa breifat gyntaf yn y DU i gael ei phweru gan drydan. 

Adeiladodd berthynas â’i chymdogion Cymreig, a bu’n hael iawn i’r bobl yn yr ardal gyfagos; cyfeiriwyd ati’n gynnes fel ‘Boneddiges y Castell’, ‘Y Fenyw Hael’ neu ‘Frenhines y Calonnau’. Perfformiodd mewn nifer o gyngherddau elusennol yn Abertawe ac Aberhonddu ac ad-dalwyd ei chariad at yr ardal pan addurnodd miloedd o drigolion lleol eu pentrefi ym 1886 er mwyn dathlu ei phriodas â Nicolini. 

Ym 1891, agorwyd Theatr Patti yn swyddogol yng Nghraig y Nos. Agorodd Adelina Dwnnel Hafren hefyd ym 1887 a alluogodd i’r trên uniongyrchol rhwng Llundain a Chastell-nedd weithredu. Ym mis Mai 1897 fe’i gwnaed yn Fwrdeisiwr Anrhydeddus Aberhonddu a rhoddwyd Rhyddid y Fwrdeistref iddi. Enwyd ward yn Ysbyty Abertawe ar ei hôl, ac ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn cymerodd ran yn agoriad Theatr y Grand y ddinas. 

Yn ystod y blynyddoedd cyn y rhyfel, roedd Craig y Nos yn angor iddi – treuliodd o leiaf chwe mis y flwyddyn yn ei ‘chastell’. Ar 20 Mehefin 1912 dyfarnwyd Rhyddid er Anrhydedd Dinas Abertawe iddi, a hi oedd y fenyw gyntaf yn y DU i gael ei hanrhydeddu gan ddwy fwrdeistref. 

Yn dilyn marwolaeth Adelina, ym 1920 dodwyd Craig y Nos ar werth. Roedd yr Ardd Aeaf wedi’i haddo i Abertawe, ac felly cafodd ei datgysylltu a’i symud i’r ddinas, ac mae hi yna o hyd fel Pafiliwn Patti. Fe’i hagorwyd yn swyddogol ar ôl ei chodi ym Mharc Victoria ar 5 Mehefin 1920 – a chostiodd oddeutu £4,000 i’w throsglwyddo. 

Prynodd Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru adeilad Craig y Nos a’r 48 o erwau o’i gwmpas am £19,000 ym 1921, gan sefydlu sanatoriwm twbercwlosis. Yn y 1950au, daeth yn ysbyty henoed gan barhau felly tan 1986. Mae’r tir bellach ar agor i’r cyhoedd fel Parc Gwledig a gynhelir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Erbyn hyn, mae’r castell dan berchnogaeth breifat a gellir ei logi ar gyfer amrywiaeth o achlysuron a phriodasau.