Digwyddiadau Chwaraeon
Gyda'u milltiroedd o forlin a thraethau trawiadol, mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn darparu'r cefndir perffaith ar gyfer digwyddiadau chwaraeon anhygoel.
O hanner marathonau i dreiathlonau ac o chwaraeon elît i rasys elusennol, mae rhywbeth i bawb, p'un a ydych am gymryd rhan neu gefnogi eraill.
Bob blwyddyn rydym yn croesawu ras 10k Bae Abertawe a gynhelir ar hyd ehangder atyniadol Bae Abertawe, sy'n cynnig y cyfle perffaith i chi roi cynnig ar redeg ras neu guro'ch amser personol gorau gyda'i lwybr cyflym, gwastad. Bob mis Gorffennaf, cewch gyfle i weld rhai o dreiathletwyr gorau'r byd yn cystadlu wrth i ni groesawu Ironman 70.3 Abertawe i'r ddinas, ras arobryn lle mae'r cystadleuwyr yn cystadlu o gwmpas y ddinas, Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.
Ydych chi'n teithio yma i wylio unrhyw un o'r digwyddiadau chwaraeon penigamp hyn neu i gystadlu ynddynt? Ewch i'r adran 'ble i aros' i'ch helpu i gynllunio'ch taith, a chymerwch gip ar ein hadran bwyd a diod i ddod o hyd i'r lle perffaith i fwyta a dathlu ar ôl y ras!
Ffefrynnau blynyddol
- Jul 13, 2025
Digwyddiad Chwaraeon
IRONMAN 70.3 Abertawe
Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig golygfeydd godidog gyda’r dociau SA1 hanesyddol, penrhyn Gŵyr, bryniau tonnog gwyrdd, porfeydd ac…
Ydych chi'n mynd i gystadlu?
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…
Gwybodaeth i Ymwelwyr am Ddigwyddiadau Chwaraeon Haf
P’un a ydych chi’n teithio yma i gystadlu dros y penwythnos, neu’n dod yma i…
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!