Yr Haf

Mae'r haf wedi cyrraedd, mae'r ysgol ar gau ac mae digonedd o bethau'n digwydd ym Mae Abertawe! P'un a ydych chi'n mwynhau cerddoriaeth, chwaraeon, neu'r celfyddydau, mae gan Fae Abertawe a phenrhyn Gŵyr amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal dros fisoedd yr haf! Gallwch fwynhau deuddydd o arddangosiadau awyrenegol uwchben traeth Abertawe AM DDIM yn ystod Sioe Awyr Cymru, neu dewch i gefnogi'r athletwyr yn ystod IRONMAN 70.3 Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd. Mae mynediad i'n lleoliadau diwylliannol - Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Chanolfan Dylan Thomas - am ddim. Maent yn cynnig gweithdai creadigol ac arddangosfeydd i gadw hyd yn oed y plant mwyaf chwilfrydig yn brysur yn ystod gwyliau'r ysgol, ac mae perfformwyr cerddoriaeth poblogaidd yn perfformio o flaen torfeydd mawr ym Mharc Singleton ar nosweithiau cynnes yr haf. Gallwch fwynhau bwyta yn yr awyr agored ar lan y môr, prynhawniau mewn gardd gwrw a bwyta pysgod i swper wrth wylio'r haul yn machlud dros y traeth.  

Yr haf yw'r amser perffaith i archwilio ein harfordir arbennig, gan fynd am dro ar hyd ein milltiroedd o draethau neu Lwybr Arfordir Gŵyr, gwersylla a mwynhau machlud haul godidog dros Fae Rhosili.  

Wrth i'r gwyliau ysgol gyrraedd, cymerwch gip ar ein hadrannau 'pethau i'w gwneud' ac 'atyniadau' i gael digonedd o syniadau ar gyfer hwyl yr haf. Mae gennym syniadau ar gyfer diwrnodau gwlyb hefyd - ac nid oes rhaid i hwyl yr haf fod yn ddrud chwaith! Cymerwch gip ar ein hadran 'gweithgareddau am ddim'.  

Traethau

Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd ar gael ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. Gydag 20 o draethau sy'n ymestyn ar hyd 30 milltir o'r morlin, mae'n rhaid i chi fynd i'r traeth yn ystod eich amser yn…

Atyniadau

Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r  amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf, cofiwch fynd i Oriel Gelf Glynn Vivian. Gall dilynwyr Dylan Thomas…

Gweithgareddau

Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael. Gallwch archwilio’r arfordir a chefn gwlad ar droed, ar gefn beic neu drwy farchogaeth, ac mae pob math o chwaraeon dŵr ar gael!

Digwyddiadau'r haf na ddylech eu colli

    Dangos / Arddangos

  • Jul 5, 2025 - Jul 6, 2025

Sioe Awyr Cymru

Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol…

Jul 05

    Digwyddiad Chwaraeon

  • Jul 13, 2025

IRONMAN 70.3 Abertawe

Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig golygfeydd…

Jul 13

Rhagor o ffyrdd o fwynhau Abertawe'r haf hwn

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.

Tymhorau

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn rydych chi'n ymweld â’r ardal, mae gan Fae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr olygfeydd godidog, digwyddiadau anghredadwy a llawer o ffyrdd o greu atgofion perffaith.

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren…

Blog

Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog!